Y tro hwn, fodd bynnag, mae gen i amheuon ynglyn â chais diweddaraf awdurdodau’r Eisteddfod am arian ychwanegol. Maen’ nhw’n galw am gynnydd blynyddol o £188,000 yn y cymhorthdal o £488,000 a ddaw i goffrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru o du’r Cynulliad. Ond ystyriwch hyn. Byddai hynny’n godiad o 40%! A hynny, cofier, mewn cyfnod o ddirwasgiad brawychus. Cyfnod pan mae addysg a iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol – a’r Cynulliad ei hun – dan warchae ariannol.
Yn wir, yn yr hinsawdd sydd ohoni, teg ydi gofyn un cwestiwn, cyn mynd gam ymhellach: ydi Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, a’i Gyngor, ar yr un blaned â’r gweddill ohonom? Ydyn nhw’n credu o ddifrif mai dyma’r amser priodol i hawlio 40% yn rhagor o arian y Cynulliad? Ydyn nhw, mewn gwirionedd?
Cofier hefyd nad £488,000 y Cynulliad yw’r unig gyfraniad y mae’r Eisteddfod yn ei dderbyn o’r pwrs cyhoeddus. Mae hi’n cael £353,000 ar ben hynny gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dyna gyfanswm, felly, o £831,000 i’r Eisteddfod mewn arian cyhoeddus.
Diau y byddai Elfed Roberts yn dadlau bod yr Eisteddfod wedi gofyn gyntaf i’r Cynulliad am yr arian ychwanegol yma dair blynedd yn ôl, cyn bod sôn am ddirwasgiad. Mae hynny’n wir. Teg hefyd yw cydnabod mai adroddiad y cyfrifwyr siartredig Grant Thornton yn 2005 a alwodd yn wreiddiol am gynnydd o £188.000 yng nghymhorthdal y Cynulliad i’r Eisteddfod. Nid ffigwr mympwyol a ddychmygwyd gan y Prif Weithredwr mohono. Bwrdd yr Iaith, gyda llaw, nid yr Eisteddfod, a gomisiynodd adroddiad Grant Thornton.
Erys y teimlad, fodd bynnag, nad dyma’r adeg doethaf i fod yn gofyn eto am yr arian. Wedi’r cyfan, fe ellir bod yn dra ffyddiog eisoes y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2009 yn gwneud elw iach. Yn barod mae bro Llwyd o’r Bryn, bathwr ‘Y Pethe’, wedi codi £196,000, sef 97% o’i tharged. Dyna i chi gamp. Mae hyn yn arwydd o’r ymrwymiad i’r Eisteddfod a gewch chi o hyd yng nghadarnleoedd y diwylliant Cymraeg. Ni allaf ragweld y bydd na dilyw na phla o locustiaid yn atal eisteddfodwyr godidog Penllyn a Meirionnydd rhag cynnal Prifwyl lwyddiannus yn ariannol a diwylliannol fis Awst nesaf.
Nid ydwyf eto, fodd bynnag, wedi crybwyll fy mhrif reswm dros amau a ddylai’r Cynulliad ymateb yn gadarnhaol i gais Elfed Roberts am 40% yn rhagor o gymorth ariannol. Rhybuddia’r Prif Weithredwr mai canlyniad bod heb yr arian ychwanegol hwn fydd gorfodi’r Brifwyl i wneud i ffwrdd â rhai o’i gweithgareddau. Ond a fyddai hynny o angenrheidrwydd yn beth drwg? Onid oes llawer o eisteddfodwyr yn teimlo, ym mêr eu hesgyrn, bod yr Eisteddfod wedi mynd yn rhy fawr o lawer erbyn hyn? A’i bod hi wedi colli peth o’i rhin a’i chymeriad a’i chynhesrwydd yn y broses. Yn waeth na hynny, mae’r anghenfil o Brifwyl bresennol, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi methu mynd i Eifionydd, o bobman! Nid oedd yno unman, fe hawliwyd, a oedd yn addas ar ei chyfer. Hynny ydi, nid oedd yno unman a oedd yn ddigon mawr i’w chynnal. Yn enw pob rheswm, onid oes rhywbeth difrifol o’i le pan fo’r Eisteddfod Genedlaethol yn rhy fawr i fynd i’r Eifionydd Gymraeg! Nid bob amser y bydd rhywun yn cytuno â Robyn Llyn. (Ni fyddai yntau, chwarae teg iddo, yn disgwyl hynny!) Ond daeth y cyn- Archdderwydd yn bur agos at y gwir pan ddywedodd: ‘Busnes yr Eisteddfod ydi ffitio’r dalgylch yn hytrach na disgwyl i’r dalgylch ffitio’r Eisteddfod.’ Diau fod cyfyngiadau’r Gormeswyr Mawr hynny, Iechyd a Diogelwch, yn dylanwadu’n drwm ar leoliadau’r Brifwyl. Ond onid ydi beio ‘helth an’ seffti’ yn gallu hefyd bod yn esgus hwylus weithiau? Yn gam neu’n gymwys dyna’r argraff sy’n cael ei chreu.
Mae’r Bala yn 2009 eto, diolch byth, yn gallu cynnig cartref i’r Eisteddfod o fewn cyrraedd hwylus i’r dref. Ond eithriad prin ydi’r Bala. Yn gyffredinol mae’n fwyfwy anodd dod o hyd i safle addas, trefol , i’r Brifwyl fodern. Y tro diwethaf y bu hi ym Môn yn 1999 roedd hi erbyn hynny’n rhy fawr i’w chynnal yn Llangefni, cartref eisteddfodau hwyliog a llwyddiannus 1957 a 1983. Fe’i cynhaliwyd yn hytrach ar safle foel a di-nod rhwng Pentraeth a’r Benllech. Fel sy’n digwydd mor aml y dyddiau hyn, doedd yr un gymuned, felly, yn ganolbwynt i’r gymdeithas eisteddfodol fin nos ymgasglu ynddi. Unwaith roedd pobol wedi cael eu gollwng allan o’r meysydd parcio – proses hir a llafurus yn Nhir Neb 1999 – roedd pawb yn mynd eu ffordd ei hunain. Ac nid oedd un ffynnon ganolog lle y gallai eneidiau hoff cytûn ddod at ei gilydd yn hapus dyrfa i ddrachtio o’i dyfroedd. Mae hynny’n gythraul o ergyd i’r Eisteddfod. Yr union gymdeithas nosweithiol honno – a phrynhawnol, o ran hynny – fu un o atyniadau pennaf yr Eisteddfod drwy gydol ei hanes. Tanseiliwyd hynny pan ddechreuwyd efelychu Mamon a chynnal yr out of town Eisteddfod.
Rhaid cydnabod erbyn hyn, fodd bynnag, bod caniatáu i alcohol gael ei werthu ar y Maes, a’r gwelliant yn yr arlwyo, wedi golygu bod cymdeithasu digon dymunol yn digwydd drwy’r dydd, a hefyd yn y cyfnod rhwng diwedd cystadlaethau’r dydd a chychwyn cyngherddau’r nos. Ond ni all pawb fforddio i yfed a bwyta rownd y rîl ar y Maes. Mae’r prisiau’n uchel. Nid gormodiaeth lwyr yw dweud mai perthnasau agos Rhisiart a Glenys, parodïau deifiol-ddoniol dyddiau cynnar S4C, yw llawer o’r rhai sy’n gallu manteisio’n ddyddiol ar yr hyfrydwch arlwyol hwnnw, yn fwyd a gwin.
Mae hynny’n ychwanegu at y teimlad bod yr Eisteddfod wedi cael ei herwgipio gan y dosbarth lluosog hwnnw sydd mewn sawl dull a modd yn ‘rhedeg’ y Gymru ddatganoledig. Fe glywch gefnogwyr rygbi’n cwyno bod gormodedd o lawer o docynnau gemau rhyngwladol yn mynd i gyrff megis S4C sy’n manteisio ar yr achlysur i gynnig corporate hospitality i’r sawl maen’ nhw eisiau eu prynu... wps, plesio. Gan fod rygbi rhyngwladol yn fwy poblogaidd na’r Eisteddfod go brin y gellir honni bod yr un peth yn union yn digwydd ar faes y Brifwyl. Ond holwch chi’r cwmnïau hynny sy’n trefnu ‘digwyddiadau’, ac fe synnech o ddeall faint o estyn croeso corfforaethol sy’n digwydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod. A does dim byd o’i le yn hynny yn achos pobol sydd wedi noddi’r Brifwyl.
Ond canlyniad hyn i gyd ydi bod eisteddfodwyr traddodiadol yn cael y teimlad cynyddol bod holl naws y Maes yn mynd yn fwy corfforaethol o flwyddyn i flwyddyn. Pwy sy’n meddiannu’r safleoedd amlycaf ar y Maes? Yr ateb, wrth gwrs, ydi’r Cynulliad a’r lliaws o asiantaethau a mudiadau cyhoeddus neu led-gyhoeddus sy’n ein llywodraethu dan gochl ein gwasanaethu. A bob blwyddyn, bron, fe ddaw llef ddistaw fain rhyw lyfrwerthwr bach preifat, eisteddfodwr i’r carn, yn cwyno na ddaeth nemor yr un cwsmer ar gyfyl ei gongl bellennig ef o’r Maes. Canfyddiadau fel hyn sy’n rhoi’r argraff – camargraff, o bosib – bod y corfforaethol yn ffynnu ar draul y diwylliannol. Ac mai rhywbeth ar eu cyfer Nhw ydi’r Eisteddfod erbyn hyn ac nid ar ein cyfer Ni.
Peidied neb â chamddeall, fe fyddai’n sobr o beth pe byddai’r Cynulliad ac ati yn cadw draw o’r Eisteddfod. Ond does wiw gadael iddyn nhw gymryd drosodd. Ydi, siwr iawn, mae Maes yr Eisteddfod yn lle ardderchog i rwydweithio. Ond gochelwn rhag gadael i’r bobol hyn gredu mai er eu lles nhw a’u gyrfaoedd rydan ni’n cynnal yr Eisteddfod.
Os byddai bod heb £188.000 yn rhagor yn golygu Eisteddfodau Cenedlaethol llai o ran maint, ond peth wmbredd yn fwy cartrefol, fe allai hynny fod yn fendith.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
