Thema dywyll Thema golau

Llafur Ofer David y Tori

Dros ddegawd yn ôl, bellach, bûm yn gwrando ar Yr Athro Richard Rawlings – un o ysgolheigion disgleiriaf ei genhedlaeth ym maes y gyfraith, a’r prif arbenigwr ar sefyllfa gyfansoddiadol Cymru – yn darlithio ar destun Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Honno oedd cyfansoddiad cyntaf y Gymru ddatganoledig a Rawlings oedd y cyntaf i lawn sylweddoli pa mor annigonol oedd y gyfundrefn a sefydlwyd ganddi.

Cymhlethdod ac amwysedd y drefn newydd oedd testun y bregeth, ac er mwyn dangos pa mor eithriadol, eithafol gymhleth oedd pethau yng Nghymru fe estynnodd y darlithydd at gopi o’r cyfansoddiad Americanaidd. Dogfen gryno, hylaw yw honno, wrth gwrs. Dogfen y mae modd egluro ei chynnwys i ddisgyblion ysgol. O’i chymharu â hi yr oedd Deddf 1998 yn horwth o beth nad oedd gan unrhyw leygwr obaith ei deall.

Ac yn wir, dim ond megis man cychwyn oedd y Ddeddf ei hun i’r sawl oedd am wybod beth oedd hyd a lled pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei ymgorfforiad cyntaf. Roedd yn rhaid hefyd wrth gopi o’r gwahanol Orchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau – y cyntaf ohonynt ymhell dros 500 tudalen o hyd – lle rhestrwyd y cymalau perthnasol yn y Deddfau Seneddol perthnasol a oedd yn ymbweru’r Cynulliad mewn rhyw fodd neu’i gilydd. Ac nid oedd dim amdani wedyn ond troi at gopïau o’r Deddfau eu hunain os am ddeall beth a olygai hynny mewn termau ymarferol.

Mewn gwrthgyferbyniad â chyfansoddiad yr Unol Daleithiau, llyfryn bychan sy’n cymryd ei le’n dwt mewn poced, byddai angen...wel, bron i mi ddweud berfa, er mwyn cludo cyfansoddiad Cymru yn y cyfnod rhwng 1999 a 2007. Ond mae hynny’n or-optimistaidd. Byddai sgip sy’n agosach iddi.

Ergyd darlith Rawlings oedd bod trefn o’r fath yn annhebygol iawn o brofi’n ddealladwy, yn gynaliadwy nac yn effeithiol. Pwy all wadu nad oedd yn llygad ei le? Ond fe ddysgodd un o leiaf o blith ei gynulleidfa wers ehangach, sef ei fod yn amheus iawn o ddogfennau swyddogol neu led-swyddogol hirfaith a hirwyntog. Yn amlach na pheidio maent yn celu un ai ymdrech i reoli, cyfyngu a chaethiwo (megis Deddf 1998) neu ddiffyg sylwedd. (Megis Mesur Iaith 2011? Neu Faniffesto Llafur ar gyfer etholiadau datganoledig yr un flwyddyn?) Nid bob tro, wrth gwrs. Mae llyfr Rawlings ei hun yn trafod ein cyfansoddiad cyntaf, Delineating Wales – cyfrol dros 700 tudalen o hyd – yn brawf fod eithriadau. Ond, o’m profiad i, prin ydi’r rheini hefyd.

* * *

Fe’m hatgoffwyd o wers darlith Rawlings wrth fy ngorfodi fy hun i geisio cwblhau darllen y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i Gomisiwn Silk ddiwedd Chwefror. Nid ar chwarae bach roedd gwneud hynny chwaith. Dyma ddogfen hirfaith a hirwyntog os bu un erioed. Mae dros 100 tudalen o hyd – 113 a bod yn fanwl gywir – ac mae’n darllen fel petai ddwywaith yn hwy. Rwy’n addo i chi fod darllen yr isadran ar ddwr, yn arbennig, yn ddigon i godi’r felan ar yn anorak cyfansoddiadol mwyaf pybyr. Dyma ysgrifennu sydd bron yn athrylithgar o ddiflas a di-fflach.

Ond mae’n hir, yn ddiflas ac yn ddi-fflach i bwrpas. O gynnal diddordeb yn ddigon hir i ddarllen rhwng y llinellau, dyma ddogfen sy’n datgelu llawer am agweddau – a gwahaniaethau barn – yn San Steffan a Whitehall.

* * *

Yr oedd hi’n amlwg o’r cychwyn cyntaf y byddai’n anodd i’r ddwy blaid sy’n ffurfio Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol gytuno ar safbwynt i’w gyflwyno i Silk. Ar y naill law fe safai’r Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol, David Jones, gwr oedd a’i fryd ar gipio pwerau yn ôl o Gymru i Lundain – yn union fel y mae’r mwyafrif llethol o aelodau ei blaid yn deisyfu ei wneud yng nghyd-destun Ewrop. Ar y llaw arall, fodd bynnag, fe safai’r Democratiaid Rhyddfrydol (a synnwyr cyffredin, decini) a sylweddolai nad oedd hynny’n safbwynt cynaliadwy na chredadwy, ond a gredai’n hytrach bod yn rhaid cynnig mwy. Canlyniad rhagweladwy pegynnu o’r fath oedd cyfaddawdu rhywle yn y canol rhwng y ddau safbwynt.

Mae tystiolaeth y Llywodraeth Brydeinig yn disgrifio’n llafurus o fanwl sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu, ond yn dadansoddi neu’n awgrymu nemor ddim. Yn wir, ymddengys fod y ddogfen wedi ei llunio’n fwriadol i foddi unrhyw ddarllenydd mewn manylion dibwys. Sut arall mae dehongli’r ffaith fod hon yn ddogfen nad ydyw’n cynnwys yr executive summary bondigrybwyll?! Yr unig ffordd o wybod beth a geir rhwng ei chloriau ydi ymwroli, a darllen y bali peth bob gair. Byddai Sir Humphrey ei hun yn edmygu’r mur o eiriau a godwyd er mwyn ceisio celu’r gwahaniaethau barn o fewn y glymblaid sy’n llechu y tu ôl i’r mur hwnnw.

Serch hynny, o graffu ar ‘sylwedd’ y ddogfen – disgrifiad gor-garedig arall – rwy’n tybio mai David Jones fydd fwyaf bodlon â hi. Mae’n gyfaddawd sy’n ffafrio’r rhai sy’n llugoer iawn eu hagwedd tuag at ddatganoli yn hytrach na chefnogwyr ‘ymreolaeth’, chwedl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn eu tystiolaeth hwythau. Oblegid, er na chafodd ei ffordd wrth geisio cipio pwerau yn ôl, mae Jones wedi llwyddo i gael y llywodraeth Brydeinig i gytuno â safbwynt sy’n dal fod y modd y llywodraethir Cymru ar ôl refferendwm Mawrth 2011 fwy neu lai’n berffaith fel y mae hi. Yn wir, petawn i’n Rhodri Morgan neu’n Peter Hain, awduron Deddf Llywodraeth Cymru 2006, fe fyddwn i bellach yn mynnu ymddiheuriad cyhoeddus gan David Jones a’r Democratiaid Rhyddfrydol fel ei gilydd. Er i’r drefn a awgrymwyd ganddynt gael ei llambastio am resymau gwahanol gan Aelodau Seneddol Torïaidd a Rhyddfrydol wrth i ddeddf 2006 ymlwybro drwy’r San Steffan, mae Jones a’i gyfeillion erbyn hyn cystal ag awgrymu nad oes modd rhagori arni! Yn gyfansoddiadol, mae Cymru wedi cyrraedd gwlad yn llifeirio o laeth a’r mêl. Dylai Morgan a Hain gael eu dyrchafu i gwmni John Adams a’r Cymro arall hwnnw (medden nhw) Thomas Jefferson, fel arch-benseiri cyfansoddiadol eu hoes.

* * *

Yn y pen draw, bwriad y 113 o dudalennau yn nhystiolaeth Llywodraeth Llundain yw rheoli, cyfyngu a chaethiwo; ymdrech ydyw i lyffetheirio twf yr egin wladwriaeth Gymreig. Ond – nid am y tro cyntaf – rwy’n tybio y bydd David Jones yn cael ei siomi. Yn wir, yn waeth na hynny o’i safbwynt ef ei hun, cadarnheir ei fod yn wleidydd sydd efallai’n giamstar ar dactegau ond sy’n strategydd anobeithiol o wael. Bydd ei lwyddiant tymor byr yn prysuro’r union ddatblygiadau y mae’n ceisio eu rhwystro.

Cofier fod David Jones yn un o’r gwleidyddion hynny a chwaraeodd rôl ganolog yn y broses o ddwyn anfri ar y system LCOs hurt bost honno. Fel aelod blaenllaw iawn o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, sicrhaodd fod yr holl broses o’i llunio’n tyfu’n fwyfwy trofaus a llafurus wrth i’w geiriad fynd yn gynyddol gyfyngedig. Ond os mai’r bwriad oedd rhoi’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei lle – dangos mai’r Aelodau Seneddol Cymreig oedd yn parhau’n geiliogod ar y domen wleidyddol genedlaethol – y cwbl a gyflawnwyd oedd sicrhau undod ymhlith gwleidyddion yng Nghaerdydd, o bob plaid, bod yn rhaid wrth bleidlais gadarnhaol mewn refferendwm er mwyn cael symud i gyfundrefn gallach. Cyfundrefn a roddodd i’n sefydliadau datganoledig fwy o rym a mwy o hygrededd. Go dda rwan hogia!

O droi at Silk, wrth fabwysiadu agwedd mor uffernol o grintachlyd mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi agor gagendor rhwng ei safbwynt hi a safbwynt Llywodraeth Cymru. Tra bod Caerdydd yn cefnogi newid radical ym mhensaernïaeth y cyfansoddiad – datganoli’r heddlu, a symud tuag at ddatganoli’r gyfundrefn cyfraith a threfn yn ei chyfanrwydd maes o law – mae Llundain yn dweud ‘Dim rhagor’. Canlyniad paradocsaidd hynny yn ei dro fydd prysuro’r dydd pan fydd Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru’n derbyn mwy o rym.

Pam hynny? Yn un peth, nid oes unrhyw le i gredu y bydd ymdrechion Llundain i amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn – na’r penderfyniad rhyfeddol i anwybyddu’n gyfan gwbl rhai materion o bwys canolog i’r drafodaeth bresennol megis pensaernïaeth y setliad – yn tycio dim hefo aelodau Comisiwn Silk. Os llwyddodd aelodau Comisiwn Richard i gytuno ar gynigion radicalaidd mewn amgylchiadau llawer llai ffafriol, pam yn y byd y dylai aelodau Comisiwn Silk brofi’n llai cadarn, yn enwedig pan fo agwedd y Llywodraeth Brydeinig mor amlwg wrthnysig ac afresymol?

Ond yn bwysicach fyth, wrth ddewis agor bwlch mor amlwg rhwng y Llywodraeth Lafur yng Nghymru a’r Llywodraeth glymblaid yn Llundain, mae Jones wedi ei gwneud hi’n anodd i Owen Smith a gweddill yr Aelodau Seneddol Llafur o Gymru wneud dim byd arall ond cefnogi eu hochr ‘nhw’ yn y ddadl. Beth bynnag yw’r amheuon sy’n bodoli yn eu plith ynglyn â phwerau wedi eu cadw nôl, dyweder, neu ddatganoli’r heddlu, os ydi hi’n ddewis rhwng safbwyntiau’r ddau Jones, bydd yn rhaid cefnogi Carwyn. Byddai David wedi bod yn ddoethach o lawer pe byddai wedi mabwysiadu agwedd mwy ymddangosiadol adeiladol a chymodlon.

Er cynhyrchu 113 tudalen o dystiolaeth ar ran Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ofer yn y pen draw fydd yr holl lafur.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd - Troedigaethau?

Ymlaen >

Llyfrgelloedd Mewn Peryg