‘Owen Smith. Y fo ydi’r boi i gadw golwg arno!’ Dyna oedd awgrym cyfaill o Lafurwr pan holais a oedd yna unrhyw un o blith yr Aelodau Seneddol Llafur o Gymru a fyddai’n fodlon mentro meddwl yn ddifrif ac yn greadigol am y diffygion amlwg ym mholisïau eu plaid sydd wedi codi yn sgil creu seneddau deddfwriaethol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan adael Lloegr yn nwylo llywodraeth a senedd y Deyrnas Gyfunol.
Ein hen gyfaill ‘Cwestiwn Gorllewin Lothian’ ydi’r drwg yn y caws, wrth gwrs. Sut y gellir cynnal – heb sôn am gyfiawnhau – trefn lle mae Aelodau Seneddol o’r cyrion datganoledig yn cael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar Loegr yn unig pan fo’r meysydd polisi wedi eu datganoli i senedd-dai Caerdydd, Caeredin a Belffast? Cyn i Lafur ddod i rym yn 1997, bu pwyllgor bach o bwysigion Eingl-Albanaidd y blaid (ni wahoddwyd Cymro i’w plith) yn dwys ystyried sut y gellid mynd i’r afael â’r mater. Ni lwyddwyd i ganfod ffordd dderbyniol o wneud hynny. Yn hytrach, penderfynwyd mai’r peth gorau i’w wneud oedd gwadu bod problem yn bod o gwbl. Neu, yng ngeiriau anfarwol yr Arglwydd Irvine o Lairg, cadeirydd y pwyllgor bach, ‘The best answer to the West Lothian Question is to choose not to ask it’.
Mae ymateb Irvine yn gwbl gyson â thesis Tom Nairn yngl?n ag agwedd y wladwriaeth Brydeinig tuag at ddatganoli. Mewn darlith wefreiddiol ym mhrifddinas yr Alban yn 1997 haerodd fod y wladwriaeth ganolog yn ystyried datganoli yn ddiwygiad y gellir ei ganiatâu cyn belled â bod pethau’n aros yr un fath yng nghalon y wladwriaeth. Neu mewn geiriau eraill, os ydych chi bobl yr ymylon yn mynnu gwneud pethau’n wahanol ar eich tomen eich hunain, wel iawn. Os oes rhaid, rhaid. Ond peidiwch da chi â disgwyl i ni newid dim yma yn HQ...
Gan fod pob ateb i Gwestiwn Gorllewin Lothian yn gofyn am newid sylfaenol yn San Steffan a Whitehall, roedd hi’n haws o lawer plannu pen y wladwriaeth mor ddwfn ag sy’n bosib yn y tywod a chogio nad oedd yna unrhyw beth i boeni yn ei gylch. Ond fel y gwyddai Nairn yn dda, yn y pen draw mae hyn yn safbwynt anghynaladwy. Mae datganoli’n creu tensiynau strwythurol na ellir eu celu na chuddio rhagddynt am byth. Mae Aelodau Seneddol o Gymru hefyd yn gwybod hynny’n burion. Yn wahanol i fwyafrif Aelodau Seneddol Lloegr, criw sy’n parhau’n rhyfeddol o anwybodus yngl?n â datganoli, ni all Aelodau Cymreig anwybyddu’r newidiadau cwbl sylfaenol ar eu stepen drws eu hunain. Mae’r mwyaf soffistigedig o Aelodau Llafur yn eu plith hefyd yn gwybod mai’r hyn sydd fwyaf tebygol o ddod â’r broblem i’r amlwg ydi llwyddiant eu plaid eu hunain. Yn etholiadau cyffredinol 1964 a hydref 1974 etholwyd llywodraeth Lafur er bod mwyafrif Aelodau Seneddol Lloegr yn Dorïaid. Yr adeg hynny, nid oedd hyn o bwys tragwyddol. Ond, os a phan y digwydd hyn eto, ceir argyfwng cyfansoddiadol o faintioli nas profwyd ers cyn y Rhyfel Mawr. Os ydych yn credu fy mod yn gorddweud, ystyriwch am ychydig funudau beth fyddai ymateb y Daily Mail a’r Daily Telegraph i sefyllfa o’r fath...
Hyd yn ddiweddar iawn, iawn, ateb y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Llafur Cymru i’r hyn y dylem ddechrau ei alw’n ‘Gwestiwn Lloegr’ oedd creu Cynulliadau rhanbarthol yn yr wyth ‘rhanbarth swyddogol’ a ddynodwyd gan Whitehall ar gyfer ein cymdogion druain. Ni fu pall ar eu brwdfrydedd o blaid y cyfryw gyrff hyd yn oed ar ôl i bobl ‘gogledd ddwyrain’ Lloegr – sef yr ardal a ystyriwyd fel yr un mwyaf ffafriol i’r achos – ddangos yn 2004 nad oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn ffwlbri o’r fath. Yn wir, wrth wylio Peter Hain ac eraill yn parhau i chwifio baner llywodraeth ranbarthol i Loegr ymhell ar ôl i etholwyr Lloegr ddangos eu gwrthwynebiad llwyr i’r holl beth, roedd rhywun yn teimlo mae eu hunig wir ddadl o blaid y diwygiad arfaethedig oedd y byddai o fudd i Blaid Lafur Cymru. Nid y ddadl gryfaf, o bosib?!
Bellach, fodd bynnag, mae’n rhaid i’r selogion mwyaf pybyr dderbyn bod breuddwyd Cynulliadau rhanbarthol i Loegr yn gelain. Mae’r llywodraeth glymblaid yn Llundain wrthi’n sgubo o’r neilltu’r holl drefniadaeth a sefydliadau rhanbarthol a grëwyd dros y degawdau diwethaf. Heb sgerbwd sefydliadol o’r fath, a gyda’r farn gyhoeddus yn Lloegr yn parhau’n styfnig o wrthwynebus, nid oes obaith am atgyfodi’r syniad. Yn waeth na hynny hyd yn oed, er loes calon i’r dosbarth deallusol Seisnig ac i Aelodau Seneddol Llafur o Gymru fel ei gilydd, mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu bod poblogaeth Lloegr yn tyfu’n fwyfwy ymwybodol o’u Seisnigrwydd yn hytrach na’u Prydeindod. Mae’r tir yn symud o dan draed ein gwleidyddion wrth i Loegr a Seisnigrwydd frigo i’r wyneb fel ffactorau mewn bywyd gwleidyddol. Ond sut arall y gellir ceisio cydbwyso cyfansoddiad tiriogaethol y Deyrnas Gyfunol? Ymddengys fod tair elfen i bolisi’r llywodraeth bresennol yn Llundain. Y gyntaf ohonynt yw pwyslais rhethregol ar gryfhau llywodraeth leol yn Lloegr. Gellir maddau’r sawl sy’n sinigaidd iawn yngl?n â hyn. Nid oedd unrhyw olwg y byddai’r holl sôn am localism yn esgor ar unrhyw newid o sylwedd. Ond hyd yn oed petai hynny’n bod, ni fyddai cryfhau llywodraeth leol yn Lloegr yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r problemau a’r anghysondebau y mae datganoli ar y cyrion yn ei greu. Nid ymdrech i ateb Cwestiwn Gorllewin Lothian yw hwn felly, ond yn hytrach ymdrech arall i beidio â’i ofyn a hynny trwy godi ac ateb cwestiwn gwahanol yngl?n â llywodraeth oddi mewn i Loegr.
Yr ail elfen yn y drindod yw bwriad y llywodraeth i gysoni maint etholaethau T?’r Cyffredin. Trwy ddileu’r orgynrychiolaeth bresennol ar y cyrion (ac yng Nghymru yn arbennig) bydd hyn yn golygu bod dylanwad y cyrion hynny ar faterion sy’n ymwneud â Lloegr yn unig yn lleihau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn llai tebygol – ond nid yn amhosibl – ein bod yn ailadrodd profiad 1964 a 1974. Nid ymdrech i ateb Cwestiwn Gorllewin Lothian felly, ond yn hytrach ymdrech i sicrhau ei fod yn cael ei ofyn yn llai aml.
Yr elfen olaf yw ymrwymiad y llywodraeth – yng nghytundeb y glymblaid – i sefydlu rhyw fath o Gomisiwn i ystyried goblygiadau Cwestiwn Gorllewin Lothian. Petai’r llywodraeth o ddifrif, gallai hyn brofi’n ddatblygiad pellgyrhaeddol iawn. Ond nid oes unrhyw le i gredu mai felly y mae. Yn hytrach, er y bydd yn rhaid iddynt gael eu gweld yn gwneud rhywbeth, mae’r diffyg brwdfrydedd yn amlwg – yn enwedig wrth i ni ddynesu at refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban. Efallai y bydd y Comisiwn arfaethedig yn gofyn y cwestiwn, ond gellir bod yn hyderus y bydd unrhyw ateb a gynigir ganddo yn hel llwch mewn adroddiad a gaiff ei osod yn ofalus ar dop y silff lyfrau uchaf un yn Swyddfa’r Cabinet!
Beth am y Blaid Lafur? A hithau’n wrthblaid, a ninnau ymhell oddi wrth etholiad cyffredinol, onid dyma gyfle euraidd iddi gynhyrchu syniadau newydd herfeiddiol? Heb os, dyma’r blaid sydd â’r mwyaf o reswm ganddi dros geisio datrysiad. A dyna’n union pam y bûm yn awchu i ddarllen pamffled newydd Owen Smith a gyhoeddwyd ganol Medi gan Compass dan y teitl addawol Towards a New Union? O gofio gallu diamheuol Smith, ac o gofio awgrym fy nghyfaill mai fo oedd yr un i’w wylio, onid yma y gellid disgwyl rhyw arwydd o’r modd y bydd Llafur yn ceisio mynd i’r afael â busnes anorffenedig y cyfansoddiad tiriogaethol?
Mae’n bamffled darllenadwy tu hwnt. Yn wir, ar adegau mae’r awdur fel petai’n meddwi ar ei rethreg ei hun. Ydi hi, wir, yn briodol defnyddio’r term ‘gerrymandro’ i ddisgrifio bwriad llywodraeth Llundain i gysoni maint etholaethau? Gwir, nid yw Smith yn mynd mor bell â Peter Hain, sydd wedi cyffelybu’r polisi â throseddau Stalin – cymhariaeth sy’n awgrymu bod Aelod Seneddol Castell-nedd un ai yn frawychus o anwybodus o hanes yr Undeb Sofietaidd neu bod yr hen greadur bellach wedi colli pob gafael ar realiti. Serch hynny, dylai Smith wybod yn well na defnyddio ieithwedd mor anaddas a charlamus wrth feirniadu polisi sydd yn un cwbl resymol – ac yn bolisi y bu ei blaid ei hun yn ei annog mewn blynyddoedd a fu. Mae Smith hefyd yn feirniadol tu hwnt o fwriad y glymblaid i sefydlu Comisiwn i ystyried Cwestiwn Gorllewin Lothian – unwaith eto mae o’n gweld y brycheuyn yn llygad ei wrthwynebwyr gan anwybyddu’r ffaith fod ei blaid ei hun wedi treulio misoedd lawer yn poeni am union yr un peth (y tu ôl i ddrysau caeedig, mae’n wir) cyn 1997.
Dyna, felly, yr hyn y mae Aelod Pontypridd yn ei wrthwynebu. Ond beth, meddech chi, yw’r feddyginiaeth a gynigir ganddo? Wel, credwch neu beidio, cryfhau llywodraeth leol yn Lloegr! Hynny, yn ogystal â – ac ar y pwynt yma roeddwn yn gegrwth – lleihau nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru a’r Alban. O fewn ychydig dudalennau trodd ‘gerrymandro’ yn ffordd o sicrhau undeb newydd – heb unrhyw gydnabyddiaeth o’r croesddweud, heb sôn am unrhyw ymdrech i’w gyfiawnhau. Felly, ar wahân i’r Comisiwn a addawyd (heb frwdfrydedd nac ymrwymiad gwirioneddol) gan y llywodraeth Brydeinig, mae llais mwyaf beiddgar y to sy’n codi ymhlith Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn cefnogi’r un polisïau’n union â’r Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr Democrataidd!
Os oedd fy nghyfaill yn gywir yngl?n â statws Owen Smith AS fel y ‘boi i gadw golwg arno’, mae’n amlwg fod y pleidiau unoliaethol mewn mwy fyth o dwll nag yr oeddem wedi ei ddychmygu. Pa ryfedd fod Alex Salmond a’i blaid yn ymddangos yn gynyddol hyderus yngl?n â’r rhagolygon ar gyfer refferendwm?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
