Fe dynnodd prifathro Eton nyth cacwn yn ei ben yn ddiweddar drwy awgrymu mai myth yw’r gred gyffredin mai merched yw’r rhai mwyaf emosiynol o’r ddau ryw. Mae o o’r farn fod bechgyn yn fwy emosiynol o lawer, ond eu bod nhw’n methu mynegi eu hemosiynau mor huawdl â merched. Mae o hefyd o’r farn fod y ffordd y mae pynciau’n cael eu dysgu yn yr ysgol y dyddiau yma yn ffafrio cryfderau’r ferch, a bod bechgyn dan anfantais o’r herwydd. Mae hogia yn aml wedi ymddieithrio oddi wrth y broses addysgol erbyn yr ysgol uwchradd, gan nad ydi dulliau dysgu cyfoes yn annog nodweddion gwrywaidd traddodiadol, sef bod yn gorfforol, yn gystadleuol ac yn ymarferol. Mae llai o bwyslais bellach ar ddysgu ffeithiau a rheolau yn gyflym, a mwy ar ddehongli ac esbonio. Mae sgiliau iaith a chyfathrebu yn datblygu’n arafach mewn hogia, ac mae hynny’n eu rhoi dan anfantais yn y system addysg sydd ohoni. Mae cwyn yr arbenigwyr fel a ganlyn: pan mae merched yn methu, mae’n fai ar y system; pan mae bechgyn yn methu, mae’n fai ar y bechgyn.
Nodwedd arall ar lawer o fechgyn heddiw yw eu bod yn llai mentrus wrth groesi’r ffin o blentyndod i fyd oedolyn, gyda nifer yn byw adra tan eu tridegau a thu hwnt, tra mae eu chwiorydd wedi hen hedfan y nyth ac yn mwynhau llwyddiant gyrfaol. Maen nhw hefyd yn profi mwy o drafferthion cymdeithasol na merched. Mae hogia bach yn fwy tebygol na merched o ddatblygu awtistiaeth ac ADHD, ac o fod ar feddyginiaeth i reoli eu hymddygiad. Mae hogia hyn yn fwy tebygol na merched o ddatblygu iselder ysbryd, o’u lladd eu hunain, o ddioddef ymosodiad treisgar, o fod yn gaeth i gyffur ac o fynd i’r carchar. Mae hi’n greisis gwrywdod, a bechgyn heddiw yn tyfu fyny heb wybod pwy ydyn nhw na beth yw eu rôl, mewn byd sy’n disgwyl iddyn nhw fedru gwneud swffle a chodi wal sych.
Ers talwm, pan oedd cymdeithas gyfan yn rhannu’r cyfrifoldeb o fagu plant, doedd dim prinder ffigurau tadol i fod yn ddylanwad da ar hogia ifanc. Yn anffodus does gan lawer o hogia heddiw ddim syniad sut i dyfu’n ddynion, ac i’r rhai sydd heb ffigwr tadol yn y cartref, mae’r prinder athrawon gwrywaidd yn yr ysgol yn gwneud y daith o dyfu’n ddyn yn anos fyth.
Dyna pam ro’n i mor falch o weld Llew Davies o Ysgol Gynradd Cae Top, Bangor, yn codi ar ei draed i dderbyn gwobr ‘Pride of Britain’ y mis diwethaf. Dyma athro ifanc sy’n medru ysbrydoli plant. Gyda’i agwedd ymarferol tuag at addysg gynradd – dyma ddyn sy’n adeiladu ceir rasio gyda’i ddisgyblion – mi fyddai hogia bach drwy’r wlad yn elwa o gael athro tebyg iddo. Nid bod athrawon gwrywaidd yn ddim gwell na rhai benywaidd, ond maen nhw’n cynnig rhywbeth gwahanol, ac mae plant – nid dim ond hogia – ar eu hennill o gael dylanwad y ddau ryw ar eu taith drwy’r ysgol. Mae bechgyn yn cael eu gweld fel problem. Maen nhw’n fwganod mewn cymdeithas sy’n gweld haid o lafnau ifanc yn fygythiad ac yn destun braw. Ond os mai pobol ifanc yw ein dyfodol, mae hanner y rheini’n fechgyn, ac mae’n bryd inni ddechra dod i’w deall yn well.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
