Ond yn 2013 a yw llyfrgelloedd wedi cyrraedd diwedd y daith? Ydyn nhw wedi peidio â bod yn sefydliadau a werthfawrogir? Clywir digon o leisiau sy’n honni hynny, a bron bob dydd adroddir am ragor o awdurdodau lleol, yn bennaf yn Lloegr, yn cyhoeddi eu bwriad i gau llyfrgelloedd cyhoeddus neu eu trosglwyddo i ddwylo preifat neu ‘gymunedol’. Yn ôl CIPFA, corff cyfrifyddiaeth y gwasanaethau cyhoeddus, caewyd 200 o ganghennau ym Mhrydain yn 2011. Collir swyddi mewn llyfrgelloedd yn gyson, a chwtogir ar oriau agor llawer o’u canghennau. Ac nid llyfrgelloedd cyhoeddus yn unig sy’n dioddef: honnir gan rai nad oes angen cynnal llyfrgelloedd o gwbl.
Beth yw’r rhesymau dros y sefyllfa hon? Ar yr olwg gyntaf, y ffactor hollbwysig yw’r byd digidol, ac yn arbennig y rhyngrwyd. Os mai un o brif amcanion llyfrgelloedd yw cynnig mynediad cyhoeddus i’r byd o wybodaeth sydd ar gof a chadw, ymddengys fod ‘gwybodaeth’ erbyn hyn wedi mudo yn gyfan gwbl i’r we. A mwy na hynny, ei bod ar gael yn ei chyfanrwydd i bawb, ar draws y byd, yn rhad ac am ddim. Beth felly yw diben cynnal llyfrgelloedd os cewch chi eich ffuglen trwy Amazon a Kindle, a’ch ffeithiau trwy eich iPad a’r we?
Does dim dwywaith nad yw’r canfyddiad hwn yn rhannol gywir. Amcangyfrifir bod mwy na chwe miliwn terabeit o ddata ar y rhyngrwyd, o gymharu â’r deg terabeit sydd ar holl silffoedd Llyfrgell y Gyngres, y llyfrgell fwyaf yn y byd. A diolch i Google ac eraill trosglwyddwyd cynnwys miliynau o gyfrolau printiedig i gopïau digidol ar y we, lle maen nhw’n llawer mwy gweledol a hygyrch na’r fersiynau printiedig gwreiddiol.
Pobl ifainc, ar y cyfan, a fabwysiadodd y byd digidol gyntaf, a gwelwn ein plant yn troi’n naturiol at y rhyngrwyd i gyfathrebu â’i gilydd neu i ddarganfod gwybodaeth o unrhyw fath. Erbyn hyn bydd pobl o bob oedran yn tueddu i chwilio am y wybodaeth y dymunant ei chael trwy agor tabled neu ffôn ‘clyfar’.
Beth, felly, yw rôl llyfrgelloedd yn 2013? I ddechrau, nid yw’n wir wrth gwrs fod y gair printiedig wedi diflannu. Cyhoeddir dros 140,000 o deitlau newydd bob blwyddyn yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae’r farchnad gylchgronau yn dal yn fyw iawn. Llyfrgelloedd sy’n darparu mynediad, yn rhad ac am ddim, i’r rhain, ac i’r miloedd o lyfrau, cylchgronau a phapurau newydd sydd allan o brint, heb sôn am CDs, DVDs a deunyddiau mewn sawl cyfrwng arall.
Nid yw’n wir chwaith fod pob gwybodaeth sydd ar y we ar gael yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd. Eto, mae llyfrgelloedd yn cynnig ffordd o gael gafael, am ddim, ar wybodaeth ddigidol fasnachol. Yng Nghymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweinyddu sustem sy’n caniatáu i bob aelod o lyfrgelloedd lleol ddarllen papurau newydd, deunyddiau hel achau a sawl ffynhonnell arall, heb dalu’r pris arferol.
Er y dywedir am rai pobl heddiw eu bod yn ‘byw yn y byd rhithiol’, mewn gwirionedd rydym i gyd yn troi yn y byd go iawn o hyd, ac yn fwy na hynny, rydym yn anifeiliaid cymdeithasol wrth reddf. Os ewch chi i mewn i unrhyw lyfrgell gyhoeddus fawr heddiw, fel Llyfrgell Caerdydd neu Abertawe, fe sylwch ar unwaith fod yr awyr yn llawn synau – pobl yn sgwrsio, yn cyd-ddysgu, yn gwrando trwy glustffonau – synau sy’n adlewyrchu’r cyfoeth o wybodaeth sy’n amgylchynu pawb yn yr adeilad a’r awydd i’w rannu. Mae’r un peth yn wir am lyfrgelloedd academaidd, neu ‘information commons’, fel y gelwir rhai ohonyn nhw heddiw. Maen nhw’n llawn myfyrwyr swnllyd yn dysgu gyda’i gilydd, yng nghanol llyfrau a chluniaduron.
Yn wir, lleoedd cymdeithasol i’r holl gymuned yw llyfrgelloedd erbyn hyn. Maen nhw’n gartrefi niwtral, cefnogol a diogel i laweroedd: grwpiau darllen llyfrau; dysgwyr digidol; cylchoedd darllen i blant; cymdeithasau hanes lleol; pobl ag anawsterau dysgu; ‘ditectifs iechyd’ sy’n chwilio am wybodaeth am eu cyflyrau; pobl sy’n paratoi eu CVs ac yn ymarfer eu sgiliau cyfweld. Mae’r rhestr yn ddiderfyn. A daw llyfrgelloedd â’u gwasanaethau i gartrefi pobl anabl a bregus. Does dim rhyfedd bod llyfrgelloedd yn dal ar frig pob tabl o boblogrwydd gwasanaethau lleol dewisol: cânt fwy na 300 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn yn y DG.
Mae gan rai llyfrgelloedd dasgau eraill o bwys ac o les i bawb: mae ein Llyfrgell Genedlaethol yn gyfrifol am ddiogelu ein hetifeddiaeth ddogfennol, ym mhob cyfrwng, bron, ac am sicrhau bod gan bob dinesydd fynediad hwylus iddynt. Heddiw mae’n cyflawni hyn i raddau helaeth trwy’r rhyngrwyd, gan ddefnyddio technolegau fel digido i ‘ailgyhoeddi’ deunyddiau i gynulleidfaoedd newydd. Yn 2013, am y tro cyntaf, mae’n dechrau casglu dan ddeddf gwlad, fel ‘llyfrgell hawlfraint’, gopïau o bob math o gyhoeddiadau electronig o’r DG.
Beth sy’n gyffredin i’r holl weithgareddau amrywiol hyn? Y ffaith, awgrymaf, eu bod yn digwydd o fewn lle cyhoeddus, lle dinesig yr ydym i gyd yn ei rannu ar y cyd. Lle yw hwn sydd y tu draw i reolaeth cwmnïau rhyngwladol a llywodraethau. Dyma le democrataidd ar gyfer agor ac estyn meddyliau pobl. Does gan lyfrgelloedd ddim cenadwri a anelir at eu defnyddwyr i brynu nwyddau, er enghraifft, neu i newid eu hymddygiad. I’r gwrthwyneb, y cyfan y maen nhw’n ei ddweud wrth wahodd pawb i mewn i’w gofod yw, ‘Dewch. Croeso i chi wneud yr hyn a fynnwch chi o’r adnoddau sydd yma’.
A dyma beth sy’n esbonio pam bod llyfrgelloedd mewn trafferth, Nid oherwydd eu bod yn anacronistaidd. Ac yn sicr, nid am nad oes eu hangen yn 2013. Deillia’r problemau yn hytrach o’r ffaith eu bod nhw’n sefyll dros egwyddorion sy’n wrthun i’r dosbarth hwnnw sy’n rheoli’r llywodraeth a’r gymdeithas ar hyn o bryd yn y Deyrnas Gyfunol. Yr egwyddorion hynny yw ‘gwybodaeth yn rhad ac am ddim i bawb’, ‘lleoedd (corfforol a rhithiol) sy’n gyhoeddus ac yn agored i bawb’, a ‘hawl pawb i gael gwybodaeth am fywyd cyhoeddus’.
Y tu ôl i’r rhethreg am ddiddymu’r diffyg yng nghyfrifon y wlad – ‘awsteria’ yw’r term addas a fathwyd iddo yn ddiweddar – mae bwriad arall yn llechu. Anelir at leihau maint a dylanwad y sector cyhoeddus, neu, yn hytrach, y ‘cylch cyhoeddus’. Y bwriad yw gadael i bwerau masnachol deyrnasu’n ddirwystr a gadael dinasyddion yn ddiymadferth yng ngwyntoedd oer y ‘farchnad rydd’. I’r meddylfryd hwnnw y mae sefydliadau fel llyfrgelloedd cyhoeddus yn fwy nag amherthnasol. Maen nhw’n fygythiad.
Trist yw sylwi fod rhai cynghorau lleol nad ydynt yn rhannu’r egwyddorion cul hyn yn barod serch hynny i ddilyn yr un trywydd. Cyhoeddodd cyngor Newcastle-upon-Tyne yn ddiweddar bod y rhan fwyaf o’i lyfrgelloedd cyhoeddus yn cau.
Hen ddadl yw hon. Yn 1870, yn ystod y trafodaethau ynghylch sefydlu llyfrgell gyhoeddus am y tro cyntaf yn Abertawe, siaradodd un o’r cynghorwyr, John Glasbrook, yn erbyn y cynnig: ‘Credaf fod gan bobl ormod o wybodaeth eisoes. Roedden nhw’n haws o lawer i’w trin ugain mlynedd yn ôl. Po fwyaf o addysg mae pobl yn ei gael, anos yw hi i gadw trefn arnynt’. Ond trechwyd Glasbrook gan eraill yn y dref oedd â gweledigaeth wahanol, ac agorwyd adeilad gogoneddus y ‘Llyfrgell Rydd’ yn Heol Alexandra ar 6 Mehefin 1887 gan William Gladstone. Yn ei araith soniodd Gladstone fod Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus 1870, ‘wedi ei seilio ar yr egwyddor bod gan bob dinesydd yr hawl i addysg’.
Onid yw’r amser wedi dod nawr i ailadrodd datganiad Gladstone? I amddiffyn llyfrgelloedd yn erbyn yr ymosodiadau arnynt, ac ailddatgan eu pwrpasau sylfaenol, i addysgu, diddanu ac ehangu gorwelion pobl o bob oed ac o bob math?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
