Thema dywyll Thema golau

Trychineb Gleision

Fe wnes i ddod i adnabod Siân gyntaf yn 1984 ar gychwyn Streic y Glowyr, y safiad olaf hwnnw yn erbyn dialedd diawledig Thatcher. Mam a gwraig t? oedd Siân yr adeg honno. Dwi’n sicr fy mod i’n gywir yn dweud mai ei hunig nod, yn 25 oed, oedd gwneud ei gorau dros ei theulu. Credai mai i hynny y’i gwnaed. Bodau breintiedig, gwahanol iawn i Siân a’i thebyg, oedd y merched hynny a heriai’r drefn fel Emily Pankhurst, slawer dydd, a Germaine Greer, y dwthwn hwnnw.

Ond fe newidiodd Thatcher bopeth. Nid tynnu’r glowyr yn unig yn ei phen a wnaeth hi. Fe enynnodd Magi lid a chynddaredd gwragedd y glowyr. Yr ymdeimlad eirias hwnnw o anghyfiawnder a roddodd yr hyder i werinwragedd fel Siân James goncro eu swildod. Dros nos fe ddaru nhw fagu’r hyder i fynd ar raglenni teledu byw mewn stiwdios, brawychus o anghyfarwydd ar y cychwyn, i ddadlau yn erbyn hen lawiau Torïaidd fel y diweddar Thatcher-addolwr Elwyn Jones a’r hen gadno Syr Wyn Roberts. Ac, yn fwy na hynny, i roi ‘llond twll o ofan’ iddyn nhw!

Sicrhaodd afresymoldeb Thatcher a Scargill, dau a haeddai ei gilydd, fethiant y streic. Cyn hynny roedd 22,000 o lowyr yn gweithio mewn 22 o lofeydd yng Nghymru, o leiaf eu hanner nhw’n byllau cynhyrchiol nad oedd rheswm yn y byd dros eu cau. Ar wahân, hynny yw, i ysfa Thatcher i ymhyfrydu mewn darostwng y rhai a feiddiodd ei herio, ac i ddinistrio eu cymunedau. Ond i ferched fel Siân James roedd y streic wedi eu newid nhw am byth. Agorwyd eu llygaid. Llanwyd nhw â hyder. Fe ddaethon nhw o hyd i alluoedd, oddi mewn iddyn nhw eu hunain, nad oedd y gyfundrefn addysg, na disgwyliadau’r gymdeithas yr oedden nhw’n perthyn iddi, erioed wedi eu hadnabod, heb sôn am eu cydnabod.

Aeth Siân i Brifysgol Abertawe. Graddiodd yn y Gymraeg. Ac yn 2005 etholwyd hi i San Steffan. Mae ei hanes yn ddameg o’r dylanwad dwfn mae’r diwydiant glo wedi ei gael, nid yn unig ar unigolion ond ar Gymru benbaladr.

Ac mae hynny’n llythrennol wir. Lôn Coliar yw’r enw swyddogol hyd heddiw ar ffordd ym Mhentre Berw, Ynys Môn sy’n arwain tuag at hen waith glo. Yn wir, rydw i o’r farn mai’r gyfrol fwyaf gwerthfawr, ar sawl cyfrif, i ymddangos yn Eisteddfod Wrecsam eleni oedd Y Gogledd-ddwyrain – maes glo angof? gan Amgueddfa Cymru. Mewn geiriau a lluniau mae’r llyfryn godidog hwnnw’n tynhau’r cwlwm sy’n clymu cenedl y Cymry wrth y diwydiant glo. Atgoffodd fi hefyd o un o’r ffotograffau mwyaf trawiadol a welais i erioed. (Gofidiaf nad yw yn fy meddiant.) Llun ydoedd o wasanaeth diolchgarwch mewn eglwys nid nepell o lofa’r Parlwr Du yn Sir y Fflint. Ynghanol y cnydau a osodwyd gerbron yr allor roedd cnap mawr o lo. Hollol briodol, ynte? Oherwydd glo oedd y cynhaeaf a oedd yn cynnal y gymdeithas arbennig honno.

Am y rhesymau hyn, a chant a mil o rai eraill, roedd marwolaeth pedwar glöwr mewn pwll glo preifat yng Nghilybebyll, rhwng cymoedd Tawe a Nedd, yn taro’r fath dant yn ein calonnau. Ym merw’r Chwyldro Diwydiannol y ffurfiwyd y Gymru fodern. Hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn agos i chwarter miliwn ohonom yn lowyr. Yr hen ddiwydiannau trymion a alluogodd y Cymry, yn wahanol i’r Gwyddelod, i gael bywoliaeth yng Nghymru a thrwy hynny i gadw ein hiaith. Nid odli yn unig a wna iaith a gwaith.

Dywedwyd llawer am yr ysbryd cymdogol sy’n cynnal cymdogaethau’r glo ar adegau fel hyn. Ac roedd angen ei ddweud. Ac nid yn unig ei ddweud ond ymhyfrydu ynddo. Lladdodd Thatcher y diwydiant glo ond roedd hi’n fendigedig a gorfoleddus anghywir pan gyhoeddodd hi nad oes y fath beth yn bod â chymdeithas.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Hanes Rhyw Athro

Ymlaen >

Siglad i'r Drefn