Thema dywyll Thema golau

Hanes Rhyw Athro

Doedd gen i ddim llawer o feddwl ohonof fy hun fel athro bryd hynny ond y noson honno, yn yr aduniad, cefais le i gredu bod rhai disgyblion wedi elwa rhywfaint ar fy ymdrechion i’w haddysgu. Wedi i bennaeth yr Adran Gelf, y diweddar J. O. Hughes – un o gartwnwyr Cymru’r Plant ers talwm – brynu sinecamra, roedd yn awyddus i wneud ffilm efo’r ‘hogia’, yn fechgyn a merched (fel yr arferir y gair ym Môn).

Ar ei gais, lluniais sgript am y gangster Joe Filipacci (Robat Wyn) a’i giwed yn dod i Amlwch i ddrwgweithredu fel petaent gartref yn Chicago, hyd nes i siopwr ifanc, dewr (Wil Rowlands, yr arlunydd adnabyddus – erbyn hyn – o Gemaes) eu hymlid yn ôl i’r USA gyda chymorth Marchogion Arthur a fu’n huno ers canrifoedd mewn ogof ar Fynydd Parys, location creigiog, amryliw a sinematig. Llwyddodd trefnydd yr aduniad, Rob Ty’n Llan, i drosglwyddo’r ffilm i DVD ac fe’i dangoswyd ar sgrin fawr yn neuadd y loddest a’r gyfeddach gydol y noswaith.

Gwers ddifyrraf yr wythnos ysgol, o’m rhan i, oedd un ddwbl Use of English, bnawn dydd Gwener, ac nid yn unig am y rheswm amlycaf. Hyrwyddo llythrennedd a llengarwch yn yr iaith Saesneg ymhlith ‘gwyddonwyr’ y Chweched oedd yr amcan ond wn i ddim i ba raddau y cyflawnwyd hynny. Yr hyn a gofiaf yw awr o dynnu coes, dadlau a thrafod cwrs y byd gyda chriw o bobol ifainc ychydig flynyddoedd yn iau na mi. ‘Roeddan ni’n meddwl ’ych bod chi’n subversive,’ meddai un o’m cyn-gleientiaid. Pa well compliment gâi athro, neu awdur?

Doeddwn i ddim yn gwneud ati i fod yn ‘rebel’. A dweud y gwir, roeddwn i’n torri ’mol eisiau bod yn ‘normal’. Methwn am fy mod i’n dryblith o groestyniadau ieithyddol, diwylliannol a dosbarthiadol ac yn dalp o wrthryfel yn erbyn Prydeindod gorchestol, Cymreictod gwasaidd a phiwritaniaeth y pedwardegau a’r pumdegau. ‘Fedra’i’ch cofio chi’n rhoid gwers inni ar “Cynddylan on a Tractor”,’ meddai pensiynwraig oedd yn dair ar ddeg ar y pryd.

Cofiwn innau gerdded i mewn i’r dosbarth rhyw fore heb fawr o syniad beth yr oeddwn am ei wneud. Codi blodeugerdd. Troi dalennau. Taro ar gerdd R. S. Thomas. Ei darllen hi’n frysiog i mi fy hun ac yna yn uchel i’r dosbarth. Arswydo wrth ganfod, am y tro cyntaf, y gwenwyn adweithiol, annynol a’r dirmyg at Gymry cyffredin a lechai dan y geiriau cywrain. Treuliais weddill y wers yn rhoi mynegiant llafar i’m hatgasedd tuag at y gerdd. Bosib iawn mai dyna’r wers fwyaf ysbrydoledig imi ei thraddodi erioed. Atgyfnerthwyd fy anghymeradwyaeth o R. S. Thomas, ei fywyd a’i waith, rai blynyddoedd yn ddiweddarach pan glywais o’n dweud, wrth drafod ei farddoniaeth gydag aelodau o Gymdeithas Owain Cyfeiliog, yn Llangollen: ‘Pan ydach chi, fel fi, wedi bod yn berson plwy am flynyddoedd, rydach chi’n sylweddoli nad ydi’r rhan fwya ohonyn nhw (sef, ei blwyfolion) yn da i ddim byd.’

Ymwelwn yn aml ag Ysbyty Môn ac Arfon yn ystod y ddwy flynedd a dreuliais yn Amlwch. Nid oherwydd anhwylder ond am fod fy nghyfaill, y Dr Harri Pritchard Jones, yn gweithio yn y C&A ar y pryd. Byddai myfyrwyr gwlatgar fel Penri Jôs, Robat Gruffudd, Rhiannon Price a Maureen Rhys yn galw yno hefyd, o bryd i’w gilydd, ar ôl stop-tap. Dim ond fi oedd efo Harri yn ei stafell rhyw nos Sadwrn ac yntau ar ddyletswydd. Daeth galwad o ‘Casualty’. ‘Tara hon’na amdanat,’ meddai PJ, gan bwyntio at gôt wen, sbâr a hongiai ar gefn y drws, ‘a ty’d i fyny ichdi weld sut le sy’no.’

Mi oedd yno le. Nid annhebyg, gallwn feddwl, i faes y gad yng Nghatraeth neu Waterloo wedi’r drin, neu un o wardiau Betsi Cadwaladr, Nawdd Santes Iechyd Gogledd Cymru, yn y Crimea. Degau o ddynion meddw ac ambell ddynes, yn eu gwaed ac yn arddangos beth hylltod o anafiadau. Yn tyngu, yn rhegi neu yn llefain ac yn ochneidio wrth fynnu sylw’r nyrsus a’r meddygon. Oedodd fy nghyfaill ger rhyw henwr corffol, di-drowsus ac archoll ddofn yn gyfochrog â chrimog un o’i goesau. ‘Be ’newch chi o hyn’na, Dr Miles?’ holodd. Trwy lwc, roeddwn yn gyfarwydd â’r gair Lladin meddygol am y rhan honno o’r corff. ‘Hmm...’ meddwn, gan wyro ’mhen i graffu ar y dolur. ‘Beryg bod y tibia wedi ca’l clec go hegar.’ ‘Chi ydi Dr Miles, Weunfawr?’ holodd y claf. ‘Ia,’ celwyddais. ‘Ia wir? Feddylis i’ch bod chi’n lot h?n.’ ‘Ei fab o ydi hwn,’ ebe’r doctor go-iawn a geirwir. ‘Ia,’ ategais cyn ymesgusodi ac ymadael.

Dychwelais i Fôn ar berwyl ffuglennol ddiwedd mis Awst. Cerddais rhyw filltir neu ddwy ar hyd y llwybr sy’n amgylchynu ceudwll Mynydd Parys. Gresynais mai trefedigaeth oedd Cymru pan oedd y fangre yn fwynglawdd copr mwya’r byd ac mai trefedigaeth ydyw heddiw a Lloegr a’r corfforaethau amlwladol yn dal i ysbeilio ein hadnoddau naturiol ac i ddifetha ein tir, ein hiaith a’n diwylliant. Es heibio RAF Valley ac Atomfa’r Wylfa, sy’n disgwyl chwaer yn ystod y blynyddoedd nesaf. Pa obaith sydd inni fel cenedl tra bo plaid Keir Hardie a phlaid y Tân yn Ll?n mor llwfr ac mor imperialaidd â rhoi sêl eu bendith ar yr erchyllterau hyn?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Camp a Rhemp: Eric Gill a Chymuned Hynod Capel Y Ffin

Ymlaen >

Trychineb Gleision