Felly beth oedd gan Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013 i’w gynnig? Yn amlwg roedd llwyfan Maes B yno fel arfer, a’r llwyfan perfformio ar y Maes, sydd wedi hen ennill ei blwyf, yn cynnig adloniant hwyr y nos dan faner gigs Maes C. Roedd criw Cymdeithas yr Iaith yno, wrth gwrs, i wneud yn siwr fod rhai gigs yn cael eu cynnal tu allan i’r swigen Eisteddfodol. Roedd eu nosweithiau nhw mewn dau leoliad ar brif stryd Dinbych, a’r rheini wedi’u trefnu’n wych unwaith eto eleni. Ac roedd lle newydd sbon o’r enw Caffi Maes B ar y Maes yn cynnig cerddoriaeth hefyd – ond mwy am hynny eto.
Ni allaf lai na theimlo bod rhyw fywyd newydd wedi bod yn y Sîn Roc Gymraeg yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod eleni. Trwy gydol y llynedd dim ond 11 albwm Gymraeg gafodd eu rhyddhau, ond erbyn dechrau Awst eleni roedd bandiau ac artistiaid cyffrous fel Yr Ods, Swnami, Candelas, Y Bandana a Georgia Ruth, heb sôn am Plu, Casi Wyn a Trwbador, i gyd wedi rhyddhau deunydd newydd mewn rhyw ffurf neu’i gilydd. Felly roeddwn i’n edrych ymlaen at glywed sut fyddai’r bandiau hyn yn swnio wrth chwarae’r deunydd newydd yma’n fyw, a hynny ar amryw o lwyfannau gwahanol.
Un uchafbwynt Eisteddfodol i mi oedd gweld cymaint o ferched talentog yn eu hamlygu eu hunain yn ystod yr wythnos. A minnau wedi bod yn cyfrannu erthyglau ‘Ti ’di clywed...’ (cyfres am artistiaid newydd) i gylchgrawn Y Selar, roeddwn i eisoes wedi cael fy nghyflwyno i gerddoriaeth Casi Wyn a Kizzy Crawford. Felly roedd hi’n fraint cael y cyfle i wylio’r ddwy yn perfformio’n fyw ar fwy nag un achlysur yn ystod yr wythnos, ac yn cyflwyno’u caneuon hyfryd i rai pobl a oedd heb eu clywed o’r blaen. Dyma ddwy gantores sy’n sicr o gael llwyddiant yma yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y blynyddoedd nesaf. Roedd rhai o’r cantoresau sydd wedi eu sefydlu eu hunain ers blynyddoedd hefyd yn perfformio, artistiaid fel Gwyneth Glyn, Georgia Ruth a Gwenno Saunders, a da oedd gweld bod cynulleidfa deilwng wedi dod i wrando arnynt, yn enwedig yn Nhafarn y Gild ddechrau’r wythnos. (Bu Gwenno Saunders, er hynny, yn anffodus iawn i orfod chwarae ym Maes B yr un amser ag yr oedd Edward H Dafis yn chwarae ar lwyfan y Maes!)
O ran Maes B, roedd datblygiad pendant eleni yn yr ystyr fod y babell lle cynhelir y gigs yn creu llawer mwy o ymdeimlad o wyl gerddorol. Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r llwyfan a phopeth o’i amgylch wedi bod yn eithaf digroeso, ond y tro hwn galwyd ar wasanaeth arbenigol Gwyn Eiddior i ddod mewn i gynllunio ardal Maes B ac roedd ôl ei law yn amlwg. Llwyddodd ef a’i dîm i ychwanegu tipyn o gymeriad at y lle drwy osod biniau a bocsys lliwgar o gwmpas y safle, a thrwy hynny greu ychydig o awyrgylch.
Heb os, mae cael chwarae set ym Maes B yn uchafbwynt blynyddol i’r rhan fwyaf o fandiau Cymraeg, a phwy all eu beio am geisio cynnwys rhywbeth ychydig yn wahanol i’r arfer yn eu set er mwyn creu tipyn o sbloet? Yn y gorffennol rydym wedi gweld sioe dân ar y llwyfan gan Derwyddon Dr Gonzo, y dorf i gyd yn mynd ar y llwyfan ar gyfer set gan Sibrydion a ’dwn i ddim faint o fandiau yn defnyddio gwisg ffansi. Ac mae’r traddodiad yn parhau; eleni, er enghraifft, gosododd Candelas gopi anferth o glawr eu halbwm fel cefndir i’r llwyfan, ac fe daflodd Swnami beli anferth i mewn i’r dorf. Mae’r ymdrech yma i greu rhywfaint o sioe weledol yn arwydd da oherwydd mae’n dangos fod cael chwarae ym Maes B yn dipyn o garreg filltir i’r bandiau hyn, a does dim byd fel ambell syrpreis i blesio’r dorf.
Am y tro cyntaf, roedd Caffi Maes B eleni ar y Maes ei hun, sef tepee mawr ar ganol y cae. Roedd yn lle gwych i bobl allu mynd i ymlacio a gwrando ar ambell sesiwn acwstig gan nifer o’r prif fandiau. Roedd hi’n braf medru gweld nifer o’r bandiau a fyddai’n perfformio setiau llawn yn Maes B, fel Swnami, Yr Ods a Cowbois Rhos Botwnnog, yn cyflwyno sioe ychydig yn wahanol, a thawelach, i’w mwynhau yn ystod y dydd. Y Caffi hefyd oedd y lle i fynd os oeddech am glywed trafodaethau am y Sîn Roc Gymraeg. Roedd sesiynau trafod diddorol yn cael eu cynnal bob diwrnod gyda chyfle i wrando ar ambell ddadl go fywiog, ac i dderbyn gair o gyngor gan ffigyrau amlwg o fewn y Sîn – roedd Gareth Iwan, Owain Schiavone, Gwilym Morus a John Hywel Morris ymlith y rhai a gyfrannodd. Dyma ddatblygiad sydd i’w groesawu’n fawr – cyfle i drafod a chyfnewid syniadau, heb sôn am flasu miwsig bandiau da, a hynny mewn awyrgylch braf a hamddenol.
Ochr yn ochr â’r newydd-ddyfodiaid, a ffefrynnau’r ifanc, roedd yna nifer o hen bennau o gwmpas eleni hefyd. Yn wir, roedd bandiau o’r gorffennol ymhobman, doedd dim modd eu hosgoi, a gellid maddau i ymwelydd o’r gofod am feddwl ei fod wedi glanio yng Nghymru’r 1970au neu’r 1980au. Dafydd Iwan oedd yn cloi Maes B ar y nos Sadwrn olaf eleni, tra oedd Geraint Jarman yn perfformio yn un o gigs Cymdeithas yr Iaith yn Neuadd y Dref, Dinbych. O ran perfformiad, set Jarman oedd uchafbwynt yr Eisteddfod i mi. Roedd llawr y neuadd – lleoliad gwych – yn llythrennol yn ysgwyd. Pan mae o yn ei hwyliau, does neb tebyg i Jarman am allu cynhyrfu’r dorf.
Ond ‘gig olaf’ Edward H Dafis oedd y gig y bu’r mwyaf o edrych ymlaen ato fo eleni. Prin y bu cymaint o sylw ymlaen llaw i gig Cymraeg ers Gwyl Hanner Cant y Gymdeithas. Ac am unwaith mi ddaeth y torfeydd, gan greu un o’r digwyddiadau mwyaf cynhyrfus yn y SRG ers blynyddoedd. Roedd yno o leiaf 5,000 o bobl, efallai fwy – yn sicr dydw i erioed wedi gweld cymaint o dorf yn gwylio un band Cymraeg o’r blaen. Roedd y lle’n ferw o gynnwrf, ac mae’n glod i’r band fod pobl o bob oedran yno, yn mwynhau ac yn gyd-ganu’r caneuon. Erbyn ail hanner y set roedd y problemau tra anffodus gyda’r system sain a amharodd ar ddechrau’r cyngerdd wedi’u datrys a phawb wrth eu boddau.
Ond mae perfformiad Edward H, a maint y dorf, yn codi cwestiynau am sefyllfa gigs Cymraeg yn gyffredinol ar hyn o bryd. Pam fod nifer o fandiau blaenllaw’r sîn yn parhau i’w chael hi’n anodd denu degau, heb sôn am gannoedd, i rai digwyddiadau, tra mae band fel Edward H, sydd heb chwarae’n fyw ers rhai blynyddoedd, yn llwyddo i ddenu’r fath filoedd? Roedd tri o’r bandiau mwyaf poblogaidd yn chwarae yn gig Cymdeithas yr Iaith yn Neuadd y Dref ar y nos Sadwrn – Hud, Swnami a’r Ods – ond doedd hi ddim yn hanner llawn yno. Felly ai’r achlysur yn unig a ddenodd pobl i weld Edward H? Dwi’n deall fod pobl oedd ‘yn eu cofio’ am fynd i’w gweld, ac na fyddai rhai o’r rheini ddim am fentro i ganol y criwiau ifanc yn Neuadd y Dref efallai. Ond pam nad ydi rhai o’n bandiau ifanc mwyaf talentog yn llwyddo i ddenu torf fel hon yn ystod uchafbwynt y flwyddyn roc a phop Gymraeg? A ydi’r ffaith mai Dafydd Iwan a oedd yn cloi arlwy Maes B yn awgrymu na allai’r un band cyfoes ddenu mwy na llond hanner y babell? Os felly, nid beirniadaeth ar y trefnwyr na’r bandiau eu hunain ydi hyn o gwbwl, ond adlewyrchiad o apathi cyffredinol Cymry Cymraeg ifanc tuag at ganu pop Cymraeg.
O edrych yn ôl ar yr wythnos yn ei chyfanrwydd, mae digon o le i ymfalchïo yn safon ac amrywiaeth y sîn gyfredol. Ond mae’n rhaid wynebu rhai o’r problemau sy’n wynebu’r sîn honno hefyd. Ac mae prinder cynulleidfa yn broblem go sylfaenol – un y bydd angen mwy na thrafodaeth mewn tepee i’w datrys.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
