Thema dywyll Thema golau
Allan I Chwarae
Cwrs y Byd – Cymwynas Charlie Symes
'Dyfodol i'r Iaith'

Cwrs y Byd – Cymwynas Charlie Symes

Yn wahanol i beth myrdd o ysgolheigion ac awduron y gwn i amdanyn nhw nid yw Meic Stephens yn cyfyngu ei ddarllen i un maes arbenigol nac i’r hyn sydd ar y gweill ganddo ar y pryd. Mae o’n lleibio papurau newydd a chylchgronau i’w gyfansoddiad yn ddyddiol.

Ond fyddai Meic Stephens ddim wedi gallu darllen y rhifyn cyntaf un o Barn, hanner canrif gron gyfan yn ôl. Yn Nhachwedd 1962, yn athro Ffrangeg 24 oed yng Nglynebwy, doedd ganddo nemor ddim Cymraeg.

Yn enedigol o Drefforest, aeth i Ysgol Ramadeg Pontypridd a ystyrid ymhlith y goreuon yng Nghymru yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ond yr orau am wneud beth? ‘Os o’dd bachgen yn dangos gronyn o ddawn academaidd yr oedd y geiriau “For export only” i’w gweld mewn llythrennau bras ar ei dalcen… Do’s dim rhyfedd fod cymoedd y De wedi colli cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o’u pobol fwyaf disglair.” Dywed na chlywodd o ddim yw dim yn yr ysgol am Hywel Dda na Llywelyn, am William Morgan na Dic Penderyn, am Streic y Penrhyn, Terfysg Tonypandy na’r Tân yn Ll?n. Ac yn anfaddeuol: ‘Ni ddysgon ni hyd yn o’d eiriau Hen Wlad fy Nhadau – yn y dref lle cyfansoddwyd yr anthem genedlaethol’.

Yn rhagluniaethol, fodd bynnag, roedd gan Meic dad-cu a oedd wedi ymserchu ac ymdrwytho yn hanes Morgannwg. Charlie Symes oedd ei enw fo. Dyn d?ad. Ymfudwr. Sais. Cocni, a bod yn fanwl. Pan welodd fod gan ei ?yr, Michael, ddiddordeb yn ei hanesion, soniodd gydag arddeliad wrth y bachgen am William Edwards, adeiladydd yr Hen Bont ym Mhontypridd; Mabon, arweinydd y glowyr; Morfydd Llwyn Owen, cyfansoddwraig a aned yn Nhrefforest; Francis Crawshay, meistr haearn y dywedir iddo ddysgu Cymraeg yn unswydd er mwyn gallu rhegi ei weithwyr mewn iaith y bydden nhw’n ei deall; Dr William Price, tad Iesu Grist a chyfreithlonwr corfflosgi…

Heb Charlie Symes, beth fyddai hanes Michael Stephens wedi bod tybed? Yn ehangach, beth fyddai hanes Cymru wedi bod? A’n gwlad yn grud i’r Chwyldro Diwydiannol, galluogwyd y Cymry, yn wahanol i’r Gwyddelod, i aros yng Nghymru. Dyna pam fod y Gymraeg hyd heddiw gymaint cryfach na’r Wyddeleg. Yr ergyd greulonaf a ddioddefodd ein hiaith yn y Cymoedd oedd ymadawiad miloedd ar filoedd o deuluoedd i Slough a Dagenham yn ystod dirwasgiad enbyd dau a thridegau’r ganrif ddiwethaf. Ond erbyn hynny roedd y bobol a heidiodd i Gymru wedi cael eu cymhathu. Roedden nhw bellach yn Gymry. A Chymry ydyn nhw. Dim ond y mwyaf adweithiol o genedlaetholwyr – a pherson di-hid o’i ddiogelwch ei hun! – fyddai’n meiddio amau Cymreictod pobol y Cymoedd.

Hyd yn oed os ydach chi wedi dechrau cael llond bol ar y ffrwd ddiderfyn bresennol o hunangofiannau Cymraeg, rhowch gynnig ar hwn. Yn enwedig os ydach chi wedi colli amynedd efo awduron sy’n ymatal rhag dweud yr hyn maen nhw’n ei feddwl go iawn o hwn a’r llall.

Does dim gair Cymraeg yn y Briws sy’n cyfateb yn union i indiscreet. Ond dyna’r gair gorau i ddisgrifio parodrwydd Meic Stephens i rostio rhai o fuchod sanctaidd y byd llenyddol a gollwng cathod o gydau.

* Cofnodion, Meic Stephens; Y Lolfa, tt 243, £9.95.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Allan I Chwarae

Ymlaen >

'Dyfodol i'r Iaith'