Thema dywyll Thema golau
Dan Ddylanwad
Camp a Rhemp: Eric Gill a Chymuned Hynod Capel Y Ffin
Hanes Rhyw Athro

Camp a Rhemp: Eric Gill a Chymuned Hynod Capel Y Ffin

Ym mis Awst 1924, cyrhaeddodd yr arlunydd, y cerflunydd, a’r cymeriad o fri Eric Gill Gapel-y-ffin yng ngwaelodion sir Frycheiniog. Gydag ef yn disgyn o’r trên yn hen orsaf y Pandy roedd yr haflug o oedolion, plant ac anifeiliaid a ffurfiai ei deulu estynedig. Er iddo ddod â’r fath dyrfa gydag ef, ceisio heddwch yng nghefn gwlad Cymru oedd amcan Gill. Mewn llythyr at ei gyfaill John O’Connor, ymhyfrydodd y byddai bellach yn byw ddeng milltir oddi wrth y rheilffordd, gyda’r postmon yn dod unwaith y dydd ar gefn ceffyl, a’r meddyg yn teithio yn yr un modd o’r Gelli Gandryll unwaith yr wythnos.

Fel brodor o Sussex bu Gill a’i griw o ddilynwr yn trigo hyd hynny yn Ditchling yn ei sir enedigol. O edrych ar rai o’r pethau a ysgrifennwyd dros y blynyddoedd am ei benderfyniad i adleoli i Gymru, fe dybiai’r darllenydd fod Gill yn mynnu mynd â phawb i blaned Plwton yn hytrach na Phowys. Yn eu hanwybodaeth am y Gymraeg, priodolodd sawl sylwebydd ystyr apocalyptaidd bron i enw Capel-y-ffin, fel pe bai’r lle’n gwegian ar ymyl pellaf y byd: ‘Quite literally capella ad finem,’ chwedl Fiona MacCarthy.

Arwyddocâd llawer mwy cyffredin sydd i’r enw, wrth gwrs, sef bod y pentref yn sefyll ar y ffin hanesyddol rhwng esgobaethau Tyddewi a Llandaf. Saif yn agos hefyd at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac nid oedd Gill mewn gwirionedd wedi mudo mwy na thafliad carreg o’i famwlad, er gwaetha’r holl stwr amdano’n diflannu i’r gorllewin gwyllt. Nid bod modd gwadu mai lle go anodd ei gyrraedd oedd e yn 1924, pan nad oedd ond wtra fwdlyd yn arwain ato. Mae sawl un wedi nodi nad yw ychwaith ymhlith llefydd mwyaf heulog a chynnes y ddaear. I Syr T.

H. Parry-Williams, ‘aroglau marweidd-dra a marwolaeth a oedd o gwmpas y fangre’, ynghyd ag arwyddion o ‘ddarfodedigaeth Cymru a Chymraeg, malltod popeth a ystyriwn ni’n etifeddiaeth inni’.

Er hynny, mae’n eglur bod Gill wrth ei fodd â Chapel-y-ffin – ar y dechrau o leiaf – gan ysgrifennu at ei gyfaill Desmond Chute: ‘Everyone in this valley is most kind and friendly. We have been astonished at the welcome they have given us’. Nid bod y newydd-ddyfodiaid at ddant pawb. Noswyl Nadolig 1924 bu’n rhaid ymlwybro i fyny llechwedd yn y tywyllwch er mwyn symud llwyth o sachau tywod roedd un o’r cymdogion wedi’u taflu i’r nant er mwyn atal cyflenwad dwr y gymuned od o bobol ddwad. Ar un ystyr, roedd menter Gill yng Nghapel-y-ffin yn rhan o’r mudiad cyfoes dros ddychwelyd at fywyd mwy naturiol a dianc rhag bryntni a diflastod y gymdeithas ddiwydiannol. Roedd gan Mary, ei wraig, ddigonedd o gynlluniau ar gyfer tyfu llysiau, gwehyddu, gweu a gwneud dillad. Aeth ati’n gyntaf i fragu a phobi a godro.

Ond, yn anad dim, cymuned grefyddol Gatholig oedd hon. Yn fab i weinidog gyda sect fechan o Fethodistiaid Calfinaidd yn Brighton, trodd Gill at Eglwys Rufain yn 1913. Trwy ymgartrefu yng Nghapel-y-ffin roedd yn dilyn yn ôl troed Joseph Leycester Lyne (y Tad Ignatius) gwr a geisiodd sefydlu urdd o fynachod Benedictaidd yno rhwng 1870 ac 1908. Honnwyd yn 1880 fod y Forwyn Fair wedi ymddangos yn y caeau gerllaw, ac mae’n siwr fod hynny’n un o’r pethau a ddenodd Gill yno i fyw yn yr hen fynachlog yn 1924.

Denodd Gill yn ei dro nifer o ymwelwyr eraill, gan gynnwys y bardd a’r arlunydd David Jones, un o Gymry Llundain a drodd, fel Gill, at Babyddiaeth yn oedolyn. Bu Jones am gyfnod yn awyddus i briodi un o ferched Gill, ond dyweddïad digon annedwydd a gawsant yn ôl pob golwg. Daeth y berthynas i ben pan ddaeth Petra Gill o hyd i gymar newydd. Er mor anfoddhaol oedd profiadau David Jones yng Nghapel-y-ffin, mae disgrifiadau Eric Gill o’i arhosiad ei hun yno yn awgrymu’n gryf mai mwynhau ffantasi wrywaidd o fywyd roedd e. Nododd yn ei lythyrau na chodai fys i helpu â’r gwaith ty, tra pryderai ei wraig druan na châi e ddigon o lonydd i fod yn greadigol. Fel llawer hipi o’i flaen ac ar ei ôl, roedd Gill yn eithaf bodlon mwynhau breintiau penteulu traddodiadol tra ysgwyddai eraill y cyfrifoldeb o ymorol am anghenion ymarferol y gymuned

A sôn am anghenion, nid oedd cyfyngiad o fath yn y byd ar anghenion anniwall, anghyfreithlon a gwyrdroëdig Gill. Mae’n hysbys erbyn hyn iddo gael perthynas rywiol gyda’i chwaer am ran helaeth o’i oes, yn ogystal ag arbrofi’n rhywiol gyda’i ferch hynaf a’i gi. Mae’n amlwg fod rhyw a rhywioldeb ymhlith prif ddiddordebau Gill, ac ni fu’r elfen rywiol erioed ymhell o’r wyneb yn ei gelf. Ynghyd â delweddau Catholig confensiynol fel Gorsafoedd y Groes, mae ei waith yn frith o luniau o gyfathrach rywiol ac o ferched noeth a lled-noeth mewn ystumiau awgrymiadol neu gwbl agored rywiol. Gwelodd rhai rinweddau Catholig yn hyn oll. Yn 1929 honnodd Charles Marriott fod Gill yn ceisio mynegi’r ewyllys ddwyfol trwy ymdrin â phynciau cnawdol yn ei gerfluniau yn lle ymwrthod â nhw’n biwritanaidd. Bid a fo am hynny, cododd nifer o alwadau yn 1989 am gael gwared â cherfluniau Gill o Eglwys Gadeiriol Westminster pan ddatgelwyd ei hanes hir o losgach ac o ymdrybaeddu ag anifeiliaid. Penderfynwyd, fodd bynnag, fod y dalent a roddodd fod i’r cerfluniau yn un gysegredig hyd yn oed os oedd buchedd y sawl a dderbyniodd y dalent honno’n halogedig.

Er gwaethaf ei frwdfrydedd cynnar, pylodd diddordeb Gill yng Nghapel-y-ffin yn weddol fuan, ac arhosiad byrhoedlog ac ysbeidiol a gafodd yno at ei gilydd. ‘Capely-ffin, nr. Abergavenny, S.Wales’ oedd ei gyfeiriad post am bedair blynedd, ond byddai’n picio oddi yno’n aml. Yn Llundain a’r cylch roedd y rhan fwyaf o’i gwsmeriaid, a’r mwyafrif o’i gylch cymdeithasol hefyd. Teg yw dweud na ddihangodd erioed, ac na ddymunai ddianc, o hualau’r meddylfryd difeddwl sy’n cymryd yn ganiataol mai Llundain a’r siroedd cyfagos yw canolbwynt y bydysawd.

Ym mis Hydref 1928 cefnodd am y tro olaf ar ei gartref dros-dro yng Nghymru, gan symud ei dylwyth i High Wycombe ar gyrion prifddinas Lloegr. Yn eironig ddigon, o gofio dyfarniad Parry-Williams am y lle, tybiai un o leiaf o gyfeillion Gill iddo adael Capel-y-ffin am fod y lle’n rhy Gymreig iddo. ‘Wales is not you,’ meddai Desmond Chute, ‘Nor mountains you.’ Yn ôl cofiannydd diweddaraf Gill, Fiona MacCarthy, roedd Capel-y-ffin yn rhy anwaraidd, yn rhy dywyll, ac yn rhy anghydffurfiol i Gill yr artist o babydd.

O ran olion Eric Gill yng Nghapel-y-ffin, nid oes fawr ddim i’w weld erbyn hyn, ond mae un peth a gynhyrchodd yn ystod ei amser yno yn gyfarwydd i lawer ohonom, sef y teipwyneb byd-enwog Gill Sans-serif. Dyfeisiwyd hwnnw yng Nghapel-y-ffin a’i ddefnyddio yno’n gyntaf ar gyfer arwyddion ‘MEN’ a ‘WOMEN’ i gadw’r ddau ryw ar wahân yng nghapel preifat y teulu. Mae’n debyg bod y llosgachwr a’r ci-gydiwr Gill yn credu ei bod yn anweddus i ddynion a merched gymysgu yn ystod yr offeren.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dan Ddylanwad

Ymlaen >

Hanes Rhyw Athro