Thema dywyll Thema golau

Ar Yr Un Donfedd: Holi Betsan Powys

Mae’n angerddol dros y cyfrwng o hyd, wedi blynyddoedd maith yn gweithio i’r BBC. Mewn radio y cafodd ei hyfforddi gyntaf, fel newyddiadurwraig, yn ôl yn niwedd y 1980au, ac er bod ei gwaith fel gohebydd a chyflwynydd ers hynny wedi cwmpasu mwy a mwy o waith teledu, radio yw ei hoff gyfrwng i weithio gydag ef o hyd. Ac mae’n wrandawr cyson, hyd at fod yn obsesiynol. ‘Mae’n dynfa fawr i fod â rhywun yn siarad efo chi,’ meddai. ‘Mae’n gyfrwng llawer mwy uniongyrchol, agos-atoch chi na theledu.’

Y cariad hwn at y cyfrwng, ynghyd ag awydd newid, a barodd iddi ymgeisio am swydd Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, ar ôl saith mlynedd yn Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru. Fe’i cafodd, a hi felly fydd yn arwain yr orsaf yn y blynyddoedd nesaf.

Does dim dwywaith nad oes ganddi her enfawr o’i blaen. Yn gyffredinol, gostwng fu ffigurau gwrando’r orsaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod ffigurau diweddar a ryddhawyd ym mis Awst yn fwy calonogol gan ddangos peth cynnydd am y tro cyntaf ers sbel. Yn gefndir llwm i’r cyfan mae ystadegau iaith sobreiddiol os nad annisgwyl y Cyfrifiad diwethaf, ac mae Betsan mor ymwybodol â neb ei bod yn dechrau ar ei swydd mewn cyfnod anodd yn ariannol.

Serch hynny, mae hi wedi gafael yn yr awenau gyda hyder a brwdfrydedd sydd bron yn tasgu. Mae’r huotledd a fu’n nodweddiadol ohoni fel gohebydd a chyflwynydd yn awr yn cael ei sianelu i gyfeiriad gwahanol. Mae’n ateb cwestiynau am yr orsaf a’i dyfodol yn bendant ac awdurdodol, yn ddibetrus ond ymhell o fod yn ddifeddwl. Mae ‘greddf’ a ‘theimlad’ yn eiriau sy’n codi’n aml yn ei sgwrs.

A sôn am sgwrs, y peth cyntaf y mae Betsan wedi gorfod ymgodymu ag ef yn ei swydd newydd yw ‘Sgwrs’ Radio Cymru. Ers lansio’r Sgwrs yn ôl yn y gwanwyn bu tîm o weithwyr yn BBC Cymru yn gwahodd unigolion a sefydliadau i rannu eu barn am Radio Cymru. Mae’r Gorfforaeth yn disgrifio’r Sgwrs fel rhan o’r ‘prosiect ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru’. Mae rhai wedi cwestiynu gwerth yr ymarferiad. Ond mae Betsan yn amddiffyn y Sgwrs i’r carn; yn wir, mae’n mynnu ei bod yn rhan fawr o’r rheswm iddi ymgeisio am swydd Golygydd yn y lle cyntaf.

‘Mae yna griw o bobl feddylgar, pobl y mae ots mawr ganddyn nhw am ddyfodol Radio Cymru, wedi bod yn gweithio’n galed iawn, yn casglu sylwadau pobol mewn pob math o ffyrdd a thrwy sawl cyfrwng. Rydw innau wedi bod yn mynd i siarad efo pobl yn uniongyrchol, mae yna grwpiau siarad wedi eu cynnal. Olreit, y bobl oedd yn debygol o ddod i’r rheni fyddai’r bobl oedd yn gwrando ar yr orsaf yn barod. Ac felly roedden ni’n talu am ymchwil i gyrraedd y bobl hynny sydd ddim bellach yn gwrando llawer os o gwbl ac yn cael eu barn nhw. Ryden ni wedi treial cael ystod o ran oedran hefyd. Mae dros fil o bobl wedi ymateb a dwi’n ddiolchgar iawn i bobl am roi amser a mynd i’r drafferth i wneud hynny.’

Beth felly yw’r canfyddiadau hyd yma? Dywed y Golygydd newydd fod yna rai negeseuon clir ac ystyrlon wedi deillio o’r ymchwil a’r rheini’n treiddio’n llawer dyfnach i bethau na barn unigolion am wahanol raglenni. Un o’r negeseuon cyson yw bod pobl yn gweld yr angen i ehangu apêl yr orsaf, er enghraifft er mwyn denu rhagor i wrando, yn enwedig pobl ifanc a phobl llai sicr eu Cymraeg. Mae yna werthfawrogiad brwd o’r amrywiaeth sydd ar Radio Cymru ar hyn o bryd, ac yn fwy trawiadol efallai, mae pobl yn barod iawn i dderbyn y bydd cynnal ac ymestyn yr amrywiaeth hwnnw yn golygu o reidrwydd na fydd popeth ar yr orsaf yn debyg o apelio atynt hwy. Does fawr neb yn disgwyl iddi fod yn ‘bopeth i bawb’.

Ymhlith rhai o’r ymatebion mwy negyddol, ar y llaw arall, mae rhai sy’n cyd-fynd â chwynion cyffredin a glywyd yn aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny’n cynnwys y gwyn fod yna raglenni sy’n gwneud fawr ddim mwy na rhoi cyfle i gyflwynwyr siarad – rwdlan fyddai gair y beirniaid mwy plaen eu tafod – efo’i gilydd mewn stiwdio. Mynegwyd pryder hefyd fod darpariaeth yr orsaf yn tueddu i adlewyrchu byd a bywyd rhai ardaloedd o’r wlad ar draul eraill. Ac yn anochel, rhoddwyd sylw i faterion ieithyddol, yn enwedig safon y Gymraeg a glywir ar yr orsaf. Roedd y Sgwrs, yn ôl Betsan, yn crisialu teimladau pobl am hynny mewn ffordd weddol syml, gyda phobl yn disgwyl i gyflwynwyr siarad Cymraeg safonol a rhywiog, ond yn dangos mwy o oddefgarwch yn achos iaith pobl gyffredin sy’n cyfrannu at raglenni.

Dywed fod yr ymatebion yn ei chalonogi yn yr ystyr fod y prif ganfyddiadau yn cyd-fynd, yn gyffredinol, gyda’i theimladau hi ei hun am natur darpariaeth bresennol yr orsaf a’r ffordd ymlaen. Mae hynny’n gryn ryddhad iddi.

‘Yn naturiol, wrth drio am y swydd roedd rhaid imi sôn am y weledigaeth oedd gen i ar gyfer yr orsaf. A hyd yn hyn, o fod wedi cael gweld llawer iawn o’r ymatebion i’r Sgwrs a dechrau trafod y wybodaeth ddiweddar am ffigurau a phatrymau gwrando, mae ’mol i’n ok. Hynny yw, dydi negeseuon y Sgwrs ddim yn gwrth-ddweud y teimladau oedd gen i. Ydw i’n synnu at hynny? Ddim wir. Wedi’r cyfan, dwi’n wrandawraig Radio Cymru hefyd, ac mae gen i rieni a gwr a phlant a ffrindiau sy’n gwrando ac yn ymateb.’

Y mae hefyd yn barod â’i hateb i unrhyw un sy’n amheus o werth y Sgwrs ac sy’n ensynio efallai fod ei chynnal yn arwydd o ddiffyg gweledigaeth a chyfeiriad oddi mewn i’r Gorfforaeth ei hun.

‘Wrth gwrs, alli di ddim jest ymateb i Sgwrs, a hynny’n unig, wrth lunio strategaeth. Ond mae’r Sgwrs wedi bod yn werthfawr wrth gadarnhau a chrisialu nifer o bethau, ac mae yna gyfle mawr a phwysig fan hyn i wneud rhywbeth o ddifri, i wrando a newid. Mae yna griw o gynhyrchwyr ardderchog yn gweithio i Radio Cymru sydd wir eisiau gweld yr orsaf yn llwyddo.’

Er nad oes amserlen wedi’i phennu eto ar gyfer datgelu unrhyw gynlluniau newydd, mae egin strategaeth yn dechrau ffurfio ym mhen Betsan yn barod. Wrth wraidd honno fe fydd yr angen i sicrhau darpariaeth amrywiol sy’n adlewyrchu, ym mha bynnag ffyrdd, fywydau a diddordebau’r gwrandawyr eu hunain.

‘“Y Bobol Bia’r Cyfrwng” oedd un o sloganau Radio Cymru yn y 1970au – ac mae hynny’n wir o hyd. Mae’n wir fod y ‘bobol’ yr oedd Hywel Gwynfryn yn cyfeirio atyn nhw wedi newid llawer ers hynny – mae natur y gynulleidfa wedi newid am fod natur y gymdeithas Gymraeg ei hun wedi newid. Ac mae’r ‘cyfrwng’ wedi newid hefyd, a’i statws o: lle gynt yr oedd gennych chi un radio yn teyrnasu yng nghornel y stafell – fel yn ein ty ni erstalwm – erbyn hyn mae gennym yr holl gyfryngau eraill yn cystadlu am ein sylw ddydd a nos. Ond mae’n dal yn wir i ddweud mai’r bobl, y rheini sy’n gwrando ar yr orsaf, ddylai fod yn ganolog i’r ddarpariaeth – mae eisiau inni glywed mwy ohonyn nhw, a chlywed mwy amdanyn nhw, ar Radio Cymru.’

Yr her, fel erioed, yw sicrhau’r amrywiaeth o raglenni sy’n mynd i blesio sawl cynulleidfa wahanol ar un donfedd. Mae llawer wedi dweud dros y blynyddoedd mai cael ail donfedd ar gyfer Radio Cymru fyddai’r ateb amlwg i’r ddilema hon, gydag un yn darparu deunydd sylweddol, traddodiadol, a’r llall yn cynnig deunydd ysgafnach a mwy poblogaidd ei dôn, yn debycach i Radio One. Ond mae Betsan eisoes wedi dweud yn gyhoeddus na fydd dim ail donfedd yn y dyfodol rhagweladwy a hynny oherwydd cyfyngiadau ariannol a thechnegol – er ei bod yn cytuno mai dyna fyddai’r ateb amlwg.

Beth yw’r ffordd ymlaen felly? Un ateb, meddai Betsan, yw archwilio’r posibiliadau y mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn eu cynnig o ran sut mae rhywun yn darlledu.

‘Mae gennych chi DAB, a darlledu drwy’r we, a darlledu drwy deledu. Mae pobol yn gwrando ar y radio ar eu cyfrifiaduron, ar eu tabledi ac ar eu ffonau symudol. Un peth cadarnhaol iawn sydd wedi codi o’r Sgwrs yw faint o bobl fu’n dilyn Taith y Llewod ar Radio Cymru. Roedden ni’n darlledu’n fyw o bob un o’r gemau – rhywbeth nad oedd i’w gael yn Gymraeg yn unman arall – ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe ddyblodd y nifer oedd yn gwrando ar Radio Cymru dros y we. Felly mae yna gynulleidfa sy’n fodlon dod aton ni o gyfeiriadau gwahanol os ydi hynny’n golygu eu bod nhw’n cael beth maen nhw eisiau’i glywed. Mae’n rhaid dod o hyd i lwyfannau newydd.’

Mae hi hefyd yn dweud y bydd ‘targedu didostur’ – anelu at wahanol garfanau o’r gynulleidfa ar wahanol adegau – wrth galon unrhyw strategaeth newydd, fel bod pobl yn dod i wybod pryd maen nhw’n debygol o glywed rhaglenni sy’n apelio atynt.

Tra bydd canfyddiadau’r Sgwrs yn bwydo cynlluniau’r orsaf ar gyfer y cyfnod nesaf, mae’n amlwg y bydd arweiniad Betsan yn tynnu hefyd ar egwyddorion mwy sylfaenol. Mae’n gredwr cryf yn y syniad fod gan radio gyfrifoldeb i addysgu yn ogystal â diddanu. Mae lle, meddai, i’r ‘cleber wast’, fel mae hi’n ei alw, os yw’n ddifyr ac yn dda, ond mae’n rhaid hefyd wrth ‘y maeth’ – sef sylfaen gadarn o raglenni sylweddol sy’n mynd dan groen pethau.

‘Mae radio ar ei orau yn peri bod rhaid ichi aros i wrando,’ meddai. Mae’n cynnig sawl enghraifft o’i phrofiad personol o hyn yn ddiweddar, gan gynnwys gwrando ar Llion Carbis, bachgen ysgol 13 oed o Ysgol Glantaf, yn trafod taith y Llewod – rhywbeth a wnaeth iddi redeg i lawr i’r stiwdio i syllu mewn rhyfeddod drwy’r ffenestr ar y darlledwr ifanc huawdl – a chlywed dramodydd a’r beirniad theatr Paul Griffiths yn trafod ei iselder ar raglen Dan yr Wyneb Dylan Iorwerth.

‘Munudau cofiadwy fel hyn,’ meddai, ‘sy’n crynhoi apêl radio i mi.’ Does dim dwywaith nad ei gobaith yn ei swydd newydd yw harneisio potensial y cyfrwng i sicrhau munudau ac oriau lawer o ddarlledu digon cryf i gydio yn nychymyg gwrandawyr Radio Cymru, ble bynnag y bônt. Her fwy, efallai, fydd cael rhagor i ganfod yr orsaf ac i wrando yn y lle cyntaf. Ond mae un peth yn sicr – bydd y gyn-newyddiadurwraig, sy’n adnabyddus am ei phenderfyniad a’i thrylwyredd, yn siwr o droi pob carreg ac archwilio pob trywydd posib wrth fynd i’r afael â’r gwaith mawr sydd o’i blaen.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Marwolaeth Seamus Heaney (1939-2013)

Ymlaen >

Cwrs y Byd - Camu o'r Tywyllwch