Thema dywyll Thema golau

Ysu am Etholiad

Rwy’n sylweddoli fod yr hyn yr wyf am ei ddweud yn y frawddeg nesaf yn mynd i gadarnhau amheuon nifer ohonoch, sef nad yw eich colofnydd yn ei lawn bwyll. Serch hynny, y ffaith amdani yw fy mod i a nifer o’m cydweithwyr eisoes yn edrych ymlaen yn eiddgar at etholiad cyffredinol 2015. Yn wir, rydym yn ysu amdano.

Rwy’n clywed yr ochneidio, fry yma yn fy nghell yn y twr ifori! Argol fawr, ddyn, wyt ti ddim yn deall pa mor braf ydi cael ’chydig o hoe ar ôl cyfnod di-dor ers 1997 lle bu etholwyr Cymreig yn wynebu – neu ddioddef! – cyfres gyson, gyson o etholiadau? Digon teg, mae’n siwr. (Medda fi’n gwbl ffuantus.) Ond gadewch i mi geisio egluro pam fod y rhagolygon ar gyfer 2015 yn codi’r fath archwaeth arnaf.

Os bydd y sefyllfa sydd yn cael ei darlunio gan arolygon barn y deunaw mis diwethaf yn parhau, etholiad 2015 fydd y cyntaf ers pedwar ugain o flynyddoedd lle cawn weld gornest rhwng pedair plaid. Rydym wedi hen arfer â hynny yng Nghymru a’r Alban, wrth gwrs. (Mae gwleidyddiaeth etholiadol ddiweddar Gogledd Iwerddon yn fwy cymhleth fyth.) Ond gadewch inni beidio â’n twyllo ein hunain ein bod ni, bobl y cyrion Celtaidd, yn cyfrif rhyw lawer! Pleidleiswyr Lloegr sydd, bron â bod yn ddieithriad, yn penderfynu canlyniad yr etholiadau ar gyfer San Steffan. Ac yno, fyth ers i Jo Grimond a Jeremy Thorpe adfer y Rhyddfrydwyr, tair plaid sydd wedi cyfrif mewn etholiadau.

Erbyn hyn, fodd bynnag, ymddengys fod arweinydd arall wedi llwyddo i lusgo ei blaid yntau i gwmni’r dethol rai. Hyd yn oed os nad oes gan Nigel Farage a’i UKIP unrhyw obaith am ennill etholiad 2015, fe all twf y blaid honno’n hawdd benderfynu’r canlyniad. Mae hynny’n bosib oherwydd nodwedd arall o’r sefyllfa wleidyddol bresennol sy’n destun diddordeb angerddol ymhlith y rhai ohonom sy’n byw o frecwast hyd swper ar y pethau hyn.

Rydym wedi hen arfer ystyried etholiadau Prydeinig fel brwydrau rhwng y dde a’r chwith. Yn 2015, fodd bynnag, ymddengys y bydd y canlyniad yn cael ei benderfynu gan ddwy frwydr wahanol, y naill o fewn y chwith a’r llall o fewn y dde.

Gadewch i mi egluro. Ar hyn o bryd ymddengys nad yw Llafur na’r Torïaid wedi canfod ffordd o apelio at bleidleiswyr ei gilydd. Mae hynny’n wahanol iawn, felly, i ddyddiau cynnar Margaret Thatcher lle gwelwyd cefnogwyr blaenorol Llafur yn pleidleisio i’r Torïaid, neu i flynyddoedd Tony Blair pan lwyddodd Llafur i ddenu cefnogaeth heidiau o etholwyr a fu unwaith yn cefnogi’r Ceidwadwyr.

Ers etholiad cyffredinol 2010 ychydig iawn, iawn o ddarpar bleidleiswyr sydd wedi symud oddi wrth y Ceidwadwyr at Lafur. Yn hytrach, yr hyn sy’n egluro’r newid a welwyd yn y cyfamser yn yr arolygon barn yw’r ffaith fod nifer dda o’r rhai a gefnogodd blaid Nick Clegg erbyn hyn yn bwriadu bwrw eu pleidleisiau i Lafur – tra bod nifer arwyddocaol o’r rhai a gefnogodd y Ceidwadwyr bellach yn bwriadu cefnogi Nigel Farage a’i griw.

Felly ar hyn o bryd o leiaf, hyd yn oed os bydd Ed Miliband yn siwr o danio ei ynnau i gyfeiriad David Cameron, ymddengys y bydd ei lwyddiant ef a Llafur yn 2015 yn dibynnu ar eu gallu i ddal eu gafael mewn cyn-Ryddfrydwyr anniddig. Ar y llaw arall, wrth ddwrdio’r ddau Ed – Miliband a Balls – bydd gobeithion y Ceidwadwyr yn dibynnu ar eu gallu i hudo darpar bleidleiswyr UKIP yn ôl i’r gorlan. Dyma gyd-destun gwleidyddol cwbl newydd.

Beth am effeithiau hyn oll yng Nghymru? Yn amlwg ddigon, gyda Llafur eisoes mewn sefyllfa mor gryf, go brin ei bod angen cefnogaeth cyn-Ryddfrydwyr sydd wedi’u dadrithio â’r glymblaid! Serch hynny, buaswn yn argymell fod Jenny Willott, AS Rhyddfrydol Canol Caerdydd, yn dechrau dwys ystyried ei gyrfa wedi mis Mai 2015.

Mae effeithiau ymyrraeth bosibl UKIP yn y frwydr yn anos o lawer i’w rhagweld. Hyd yma dim ond ychydig iawn a wyddom am gefnogaeth y blaid honno yng Nghymru. Ond yn eu plith gellir awgrymu’r canlynol:

• A barnu oddi wrth dystiolaeth etholiadau Ewropeaidd ers 1999, Cymru yw un o ‘ranbarthau’ gwannaf y blaid. A bod yn fanwl gywir, Cymru yw’r ail neu’r drydedd wannaf – gyda’r Alban fel y wannaf un.

• Yn Lloegr (fel y gwyr darllenwyr Barn), mae cefnogaeth bresennol UKIP gryfaf ymhlith y rhai hynny sy’n meddu ar ymdeimlad cryf o hunaniaeth Seisnig, nid Prydeinig. Yng Nghymru, mewn cyferbyniad, ymysg pobl sy’n eu hystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn hytrach nag yn Gymry mae cefnogaeth y blaid ar ei chryfaf.

• Os yw’r hanesion anecdotaidd o isetholiad diweddar Môn yn gywir, yna cymunedau mwyaf Seisnigedig yr ynys oedd cadarnleoedd UKIP – enclaves megis Bae Trearddur a Rhosneigr. Cofier fod Cyfrifiad 2011 yn awgrymu bod dros 10% o drigolion Cymru bellach yn eu hystyried eu hunain yn Saeson (yn unig) o ran eu hunaniaeth genedlaethol. Ond mae rhai ardaloedd lle mae’r ganran honno yn llawer iawn uwch.

O gyffredinoli (yn betrus) ar sail tystiolaeth annigonol o’r fath, gellir awgrymu y bydd cefnogaeth UKIP yng Nghymru ar ei mwyaf dylanwadol mewn termau etholiadol yn yr ardal honno a alwodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams yn Costa Geriatrica, sef glannau’r gogledd. Yma ceir cyfuniad o etholaethau Ceidwadol sydd un ai’n gymharol ymylol neu sydd â hanes o fod yn ymylol, ac ardaloedd lle mae’r hunaniaeth Seisnig/Prydeinig yn gryf. Mae’n debyg mai Guto Bebb a David Jones yw’r ddau Aelod Seneddol Cymreig sydd â’r mwyaf i’w ofni o dwf plaid Nigel Farage a’r wleidyddiaeth newydd sydd fel petai’n deillio o hynny. Tra bod rhai ohonom yn ysu am ddyfodiad etholiad cyffredinol 2015, gellir maddau i’r Mri. Bebb a Jones os ydynt yn falch fod mwy na deunaw mis arall i’r gwynt ddianc o swigen UKIP ac iddi chwythu ei phlwc. Amser a ddengys a wireddir eu gobeithion ai peidio.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd - Camu o'r Tywyllwch

Ymlaen >

Y Sgets a Gadd ei Gwrthod