Thema dywyll Thema golau

Y Sgets a Gadd ei Gwrthod

Ar hyd y cyfnod hwnnw o bron ddeugain mlynedd, bu wrthi’n darllen 1,225 o sgriptiau yn ôl fy amcangyfrif i, cyfartaledd o 33 sgript y flwyddyn, ac yn argymell i swyddfa’r Arglwydd Siambrlen a ddylid eu trwyddedu ai peidio neu a oedd unrhyw newidiadau’n ofynnol. Mae’r holl adroddiadau hynny ynghyd â chopïau o’r dramâu a anfonwyd ato bellach ar gael i’w darllen fel rhan o gasgliad helaeth yr Arglwydd Siambrlen yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain. Wrth drafod ‘Cynan y Sensor’ yn Y Genhinen yn 1978, awgrymodd R. Wallis Evans y dylid ‘pwyso am gael y cyfan yn ôl i Gymru a’u cadw’n ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol’, ond er bod yma botensial ar gyfer brwydr ddiplomyddol ar raddfa’r un ynghylch Marmor Elgin, yn adran llawysgrifau’r llyfrgell frics coch yn Euston y gellir cael mynediad at y deunydd hynod ddiddorol hwn o hyd.

Ar y cyfan, gweithredodd Cynan yn rhyddfrydig ac yn gytbwys yn y swydd hon. Awgryma geiriau Wil Sam, a gadwodd y sensor yn brysur gyda deunydd pryfoclyd yn y 1960au, nad oedd yn afresymol yn ei ofynion: ‘Dyn yn gwneud ei waith oedd o, wrth gwrs, ac o ran tegwch i’r dyn, mi basiodd un neu ddau o bethau heb eu gweld nhw’. Ond un ddrama, neu’n gywirach, un sgets yr oedd a wnelo Wil Sam â hi ac nad oedd Cynan yn fodlon ei phasio oedd un yr anfonwyd ato i’w darllen yn 1967, flwyddyn cyn terfynu ei swydd.

Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala 1967 anfonodd Cwmni Theatr Cymru – y cwmni proffesiynol a sefydlwyd ddwy flynedd ynghynt dan arweinyddiaeth Wilbert Lloyd Roberts – ddwy sgript i swyddfa’r Arglwydd Siambrlen y bwriadwyd eu perfformio ym mhrifwyl Penllyn. Aeth yr un a fyddai’n ennyn fwyaf o ymateb, sef y ddrama gomisiwn Cymru Fydd gan Saunders Lewis, drwy ddwylo’r sensor yn ddisylw; ond am y rifìw cyfoes Deud Yda Ni a oedd i’w pherfformio yn Neuadd Buddug, profodd yn ddarn o theatr wleidyddol ry fentrus i Cynan ymatal rhag ymyrryd.

‘Detholiad o hiwmor, dychan a phrotest’ oedd y disgrifiad o Deud Yda Ni a’r tîm sgriptio oedd Gwenlyn Parry (golygydd), Rhydderch Jones, Wil Sam, John Roberts, Bruce Griffiths, a Dafydd Glyn Jones. Cynhwysai wyth sgets: ‘Dewis Aelodau’r Cyngor’; ‘Jiwbili Jiwbilant’; ‘Tedi Boi yn yr Eisteddfod’; ‘Glanhau’r Teledu’, sgets a wnâi hwyl am ben sensoriaeth – ers canol y 1960au, bu Mary Whitehouse a’i National Viewers’ and Listeners’ Association yn ymgyrchu yn erbyn y BBC; ‘Saer Doliau’ sef parodi digri ar y ddrama o’r un enw a’i hawdur, Gwenlyn Parry ei hun, ymhlith y sgriptwyr; ‘Seiat Cymraeg’ sef parodi ar drafodaeth stiwdio ar yr un ddrama; ‘Dysgu Cymraeg’; a ‘Ras yr Eisteddfod’ a ddarluniai’r brifwyl fel ras geffylau ar ffurf cystadlaethau’r Gadair a’r Goron. Yr actorion oedd Gaynor Morgan Rees, Mari Griffith, Olwen Rees, Stewart Jones ym mhersona Ifas y Tryc, a Ryan Davies a Ronnie Williams yn cyd-berfformio am y tro cyntaf. Gwnaed hwyl am ben amryw enwogion Cymreig fel John Eilian, Hywel Gwynfryn, Gwyn Erfyl, Shirley Bassey, Iorwerth Peate a hyd yn oed Cynan ei hun, e.e. yn y sgets ‘Dysgu Cymraeg’ gwelwyd Ryan yn ceisio egluro cerdd dant i gynulleidfa ddi-Gymraeg drwy ei chyfieithu’n ‘tooth music’ a chyflwynwyd cyfieithiad yr un mor llythrennol o ‘Anfon Nico’! Pa un a oedd Cynan yn gweld y jôc yn achos y trosiad o’i delyneg boblogaidd a’r hiwmor gwrthfrenhinol sy’n gwestiwn, ond fe’u pasiodd.

Ond mater arall oedd hi yn achos sgets gyntaf y rifìw: ‘Of the eight slight sketches, numbers II–VIII are fairly innocuous if puerile stuff and can be recommended for licensing, but number I “Dewis Aelodau’r Cyngor” “Choosing Members for the Council” raises a serious and objectionable matter.’ Eglurodd Cynan mai’r cyngor dan sylw oedd yr un ymgynghorol newydd a argymhellwyd ar gyfer Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Cledwyn Hughes, a bod cryn anghytundeb ar y pryd a ddylai aelodau’r corff hwn fod yn rhai etholedig neu wedi eu henwebu gan y Swyddfa Gymreig: ‘To my mind this is a scurrilous and well-nigh libellous misrepresentation of the Minister by an obvious enemy in the Welsh Nationalist Party, and it ill befits the non-political atmosphere of Eisteddfod week, where it may well cause a riot – especially as Mr Cledwyn Hughes is visiting the Eisteddfod’. Pan benodwyd Cynan i’w swydd, dywedwyd wrtho bryd hynny na ellid portreadu unrhyw berson byw ar y llwyfan, ac eto, dyma ‘Cledwyn Hughes’ yn ymddangos fel prif gymeriad yn y sgets hon, ‘grossly travestied as the arch-enemy of Wales today’.

Ni ellir datgysylltu argymhelliad Cynan oddi wrth gyd-destun gwleidyddol y cyfnod. Ffyrnigodd y frwydr rhwng Plaid Cymru a Llafur ers ethol Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol flwyddyn ynghynt ac roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ei mwyaf gweithredol. Gyda’r cloc yn tician – ysgrifennodd Cynan ei adroddiad ar 26 Gorffennaf ac roedd y cyflwyniad i’w berfformio wythnos a hanner yn ddiweddarach rhwng 9 a 12 Awst – doedd fawr o ddewis mewn gwirionedd ond derbyn penderfyniad swyddfa’r Arglwydd Siambrlen.

Serch hynny, gan mai ‘rhyw chwarter awr o waith newydd’ yn unig a oedd yn Deud Yda Ni, yn ôl disgrifiad Wilbert Lloyd Roberts, nid yw’n amhosib fod y sgets a gadd ei gwrthod eisoes wedi ei pherfformio ar raglen ddychan Stiwdio B ar deledu’r BBC a bod gwaharddiad Cynan felly’n ofer. Ac mae anghysondeb felly o safbwynt sensoriaeth rhwng gwahanol gyfryngau yn awgrymu, beth bynnag am unrhyw ddadleuon moesegol o blaid neu yn erbyn sensoriaeth, mor anodd yr oedd hi mewn termau ymarferol i gynnal deddfau sensoriaeth erbyn diwedd y 1960au.

---------------------------------------------------------------------------

Gellir darllen fersiwn llawn o’r sylwadau hyn yn ‘Bu Cynan Yma: Sensoriaeth a’r Ddrama Gymraeg, 1931–1968’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXII a gyhoeddir gan Gyhoeddiadau Gee Cyf. cyn diwedd y flwyddyn.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ysu am Etholiad

Ymlaen >

Llun y Mis - Taith Feicio Hedd Wyn