Agorodd drws y Bentley newydd sbon a daeth dyn byr trwsiadus gyda gwallt arian, sgleiniog allan ohono yng ngolau mwyn noson o wanwyn. Roedd yn olygfa na ddychmygais y gwelwn i hi byth bythoedd. Dyna lle roedd Sam Hammam, y gwr a yrrodd fy nghlwb i ddyled o ddegau o filiynau o bunnau, a hynny i’w gwmni ei hun, y dyn fu bron â rhoi’r farwol i’n holl obeithion, yn camu mas gerbron prif fynedfa Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Doedd bosib fod hwn am fynychu’r cinio diwedd tymor? Hwn yn dathlu ein dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair! Ond yna, o’r tu draw i’r car, daeth gwaedd gan wr o Faleisia – ‘Sam! Sam!’ Roedd e hefyd wedi ei wisgo fel petai wedi treulio’r pnawn mewn priodas. A gyda hynny, yng nghwmni ei gilydd, diflannodd y biliwnydd Vincent Tan, perchennog presennol Caerdydd, a’r miliwnydd a fu unwaith yn berchennog Caerdydd, gan ein gadael ni, y cefnogwyr ffyddlon, i aros mewn rhes i gael mynediad i’n sbloet-diwedd-tymor blynyddol. Croeso i’r byd pêl-droed modern.
Clwb digon di-nod fu Caerdydd ar hyd y blynyddoedd. Ambell i ddyrchafiad a buddugoliaeth nodedig ond dim byd o bwys ers y 1920au. Am dros ganrif bu’r ffyddloniaid yn talu i sefyll ar y Bob Banc er mwyn gwylio eu hannwyl Adar Gleision yn hedfan, os ychydig yn isel. Ond gydag ychydig o fuddsoddiad a thipyn mwy o lwc, wele’r clwb yn taro’r jacpot ac yn ennill dyrchafiad i gynghrair gyfoethoca’r byd, Uwch Gynghrair Lloegr. Neu Uwch Gynghrair Barclays fel y mae’n rhaid i ni ei galw. Do, fe ddaeth tro ar fyd gyda’r Bonwr Tan yn taro bargen gyda’i ffrind newydd Sam ac yn setlo’r ddyled. Ac wele Sam bellach yn ‘Llywydd Anrhydeddus am Oes’.
Dilynodd Caerdydd yr un patrwm â chlybiau pêl-droed eraill Prydain. Dynion busnes, gan amlaf o dramor, sydd bellach yn galw’r siots yn yr Uwch Gynghrair, wedi iddyn nhw brynu ein sefydliadau chwaraeon enwocaf. Dyna i chi deulu’r Glazers yn Man U (Americanwyr), Roman Abramovitch yn Chelsea (Rwsiad) a Sheik Mansour yn Man City (Abu Dhabiad.) Yn sgil eu perchnogaeth daw buddsoddiadau mawr a daw chwaraewyr gorau’r byd i ddangos eu doniau ar borfeydd Old Trafford a Stamford Bridge. Pawb yn hapus? Wel, nac ydym, fel mae’n digwydd.
Mae nifer cynyddol o gefnogwyr yn poeni mai teganau i ddiddanu diwydianwyr cefnog yn unig yw ein clybiau pêl-droed. Mae’r iot balasaidd, y jet personol, a biliwn yn y banc gyda chi eisoes. Beth nesaf, hogiau? Diawch, beth am brynu clwb pêl-droed? Mae’n swnio’n ddeniadol. Ond mae’r model ariannol yma o berchnogaeth breifat yn un hollol anghynaliadwy ac yn bygwth y cysylltiad hollbwysig fu rhwng clybiau a’r cymunedau a’u creodd nhw ac sydd yn dal, jest, i’w cynnal.
Mae ein prif glybiau pêl-droed yn byw ar gefn dyledion anferth a dim ond y llif parhaol o arian teledu sydd yn eu galluogi i dalu’r llogau aruthrol. Mae’r perchnogion yn gwario symiau mawr er mwyn denu’r chwaraewyr gorau. Er mwyn bod yn gystadleuol gorfodir timau eraill i wneud yr un fath. Dengys hyn ‘uchelgais’ y perchennog a’r clwb. Ond mae’r holl beth yn troi’n gylch dieflig o wariant, llwyddiant, dyled a mwy o wariant.
Ers sefydlu’r Uwch Gynghrair yn 1992 mae 70 o glybiau wedi wynebu methdaliad. Yn ystod y cyfnod 2001–2006 cofrestrodd 92 clwb golledion cyn treth o £1,014,000,000! Ond beth sy’n digwydd pan fo Yncl Sam neu’r Brodyr Venky (perchnogion Indiaidd Blackburn Rovers) yn colli diddordeb neu pan fo clwb yn tan-berfformio ac yn disgyn i lawr yr adrannau? Gwerthu lan? Ffeindio rhywbeth arall i’w diddanu? A naw wfft i’r clwb a’i gefnogwyr?
Mae’r bygythiad yn un go iawn. Yn ôl adroddiad diweddar y cwmni cyfrifo rhyngwladol BDO mae 65% o glybiau pêl-droed Cymru a Lloegr yn llwyr ddibynnol ar eu prif noddwr i dalu eu dyledion. Yn yr adrannau is mae perchnogion traean ein clybiau pêl-droed bellach yn ystyried gwerthu’r clwb. Hyn oll er gwaethaf rheolau ariannol newydd a gyflwynwyd gan UEFA sydd i fod i gysoni gwariant ac incwm clybiau.
Ar yr un pryd ymbellhau y mae’r gêm brydferth oddi wrth ei gwreiddiau ac oddi wrth y ffyddloniaid sy’n cefnogi eu tîm, doed a ddelo. Ie, busnes ydi busnes ac os nag ’ych chi’n ei hoffi e, wel, tyff. Ond oes rhaid i bethau fod fel hyn?
Yn yr Almaen mae’n rhaid i’r gymuned leol fod yn berchen ar 51% o gyfranddaliadau unrhyw glwb pêl-droed. Mae rheolau ariannol llym yn y Bundesliga ac mae penderfyniadau hollbwysig yn cael eu gwneud gan aelodau’r clwb, er lles y clwb, nid yn enw buddsoddwyr allanol. Nid oes yr un clwb yn yr Almaen wedi mynd i’r wal. Mae torfeydd uwch gyda nhw. Mae’r clybiau’n agosach at eu cymunedau. Mae mwy o chwaraewyr yn dewis chwarae yn eu gwlad eu hunain. Ac mae prisiau tocynnau’n is.
Dortmund a Bayern Munich, dau dîm o’r Almaen, gyda llaw, wnaeth wynebu ei gilydd yn ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop. Ac, yn ôl FIFA, tîm cenedlaethol yr Almaen yw’r tîm gorau ond un yn y byd. Mae yna stori debyg yn Sbaen. Pwy sy biau Barcelona? 150,000 o gefnogwyr sy’n talu tâl aelodaeth pob tymor ac sy’n ethol y llywydd a’r bwrdd cyfarwyddwyr. Yn Brazil dim ond clybiau’r adrannau is sy’n eiddo personol i unigolyn. Mae timau fel Santos, Sao Paulo a Vasco da Gama i gyd yn nwylo pobl leol.
Ymddengys fod perchnogaeth leol gan gefnogwyr go iawn yn gweithio. Beth felly yw’r rhagolygon ar gyfer pêl-droed yn yr ynysoedd hyn? Gyda chymorth mudiad o’r enw Supporters Direct mae 30 o glybiau bellach yn nwylo’r cefnogwyr eu hunain, gan gynnwys Portsmouth, AFC Wimbledon a Chaerwysg. Ac am unwaith mae Cymru yn arwain y ffordd. Cefnogwyr wnaeth achub clwb Abertawe yn 2002. Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y Swans sy’n berchen ar 20% o’r clwb ac mae gyda nhw gyfarwyddwr ar y bwrdd. Y cefnogwyr sydd piau 34% o glwb Casnewydd, tîm wnaeth esgyn yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed eleni. Ac achubwyd clybiau Wrecsam a Merthyr Tudful, nid gan bobl fusnes lleol, ond ie, gan geiniogau prin y werin!
Felly rhown groeso i filiynau’r meistri Tan a Hammam. A phob llwyddiant i Gaerdydd, newydd-ddyfodiaid Uwch Gynghrair Lloegr – sori, Barclays. Ond cofiwch fod Vincent Tan eisoes wedi bygwth gadael y clwb os na fydd y cefnogwyr yn dangos ‘parch’ tuag ato. Ie, rhown groeso a diolchwn iddynt. Ond pwy, Vincent, fydd yma mewn can mlynedd?
Mae Tim Hartley yn aelod etholedigo Gyngor Cymru a Lloegr, Supporters Direct.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
