Roeddwn i wrth fy nesg yn stafell newyddion RTÉ fore Gwener 31 Awst pan ddaeth si fod Seamus Heaney wedi marw. Roedd yn anodd credu’r fath beth. Er ei fod wedi cael strôc yn 2006 roedd o’n dal yn brysur ac yn weithgar. Yn wir roedd o’n un o’r beirdd gwadd ar raglen gwyl lenyddol a oedd i’w chynnal yn Dun Laoghaire yr wythnos ganlynol.
Ond ar ôl ugain munud o ffonio, cafwyd cadarnhad. Yn sydyn roedd y si yn newyddion cenedlaethol a byd-eang. O hanner dydd ymlaen roedd y cyfryngau’n llawn o bobl yn talu teyrnged i fardd enwocaf, a hoff fardd, Iwerddon. Ac fe barhaodd y sylw, y teyrngedau, y dadansoddi, a’r emosiwn trwy gydol y penwythnos, tan ar ôl ei angladd ar y dydd Llun canlynol.
Ar nos Wener ei farw, neilltuwyd ein rhaglen newyddion chwech o’r gloch ar RTÉ, sy’n awr o hyd, yn gyfan gwbl, bron, i’r teyrngedau ac i’w farddoniaeth. Chwaraewyd hen glipiau ffilm o Heaney yn darllen ei gerddi, neu’n siarad am ei grefft. Fore drannoeth dyna oedd stori flaen pob papur newydd. Anaml iawn mae’r Irish Independent – papur canol y ffordd, canol y farchnad – yn potsian efo barddoniaeth. Ond fe gyhoeddodd yr Indo gerdd gyfan ar y dudalen flaen, ‘Mid-term Break’, cerdd enwog a thorcalonnus Heaney am ddod adre o’i ysgol breswyl ar gyfer angladd ei frawd bach. Mae’r gerdd hon yn ffefryn ar faes llafur ysgolion Iwerddon, ac yn ôl athrawon, mae hyd yn oed plant sydd ag affliw o ddim diddordeb mewn barddoniaeth yn ymdawelu ac yn gwrando pan fydd y gerdd honno’n cael ei darllen. Mae’r llinell olaf, ‘A four foot box, a foot for every year’, yn syfrdanol. Ac mae’r plant yn ei deall a’i theimlo.
A dyna oedd dawn arbennig Seamus Heaney. Mae ei gerddi nid yn unig wedi ennill eu lle ymhlith clasuron llenyddiaeth. Fe enillon nhw Wobr Nobel iddo fo. Ond maen nhw’n apelio at ddarllenwyr cyffredin hefyd. Mae ei farddoniaeth yn plesio ar bob lefel, ac yn cyrraedd pawb, o’r ysgolheigion i’r plant ysgol. Er bod ei waith yn gallu bod yn gymhleth, dydy o byth yn astrus. Mae o’n sgwennu mewn iaith ddealladwy ac yn aml mewn ffurfiau traddodiadol, ac mae ei gerddi wedi eu gwreiddio ym myd ei blentyndod, yng nghefn gwlad Derry. Mae’r atgofion a’r teimladau yn y soned er cof am ei fam, ‘While all the others were away at Mass’, yn cyffwrdd pawb. Ynddi mae Heaney’n cofio bod yn fachgen yn plicio tatws yn dawel ochr yn ochr â’i fam: ‘… never closer the whole rest of our lives’.
Anaml iawn y mae bardd yn symud o fod yn ffigwr o bwys llenyddol i fod yn ffigwr o bwys cenedlaethol, ac yn achos Heaney, yn ffigwr o bwys rhyngwladol. Efallai bod rhywbeth yn natur y Gwyddelod sy’n golygu eu bod yn fwy tueddol neu’n fwy parod na chenhedloedd eraill i ddyrchafu beirdd a llenorion – yn yr un modd ag y mae Ffrancwyr yn dyrchafu athronwyr. Efallai mai’r hen draddodiad barddol sy’n gyfrifol – rhywbeth i’w wneud efo pwysigrwydd dweud stori. Ond mae’r un peth yn wir am Gymru. Mae gan Gymru’r un traddodiad barddol, ac mewn ffordd, mae barddoniaeth hyd yn oed yn fwy byw yng Nghymru nag y mae yn Iwerddon. Does yna ddim Talwrn ar radio Iwerddon.
Ond dydy marwolaeth bardd yng Nghymru ddim yn achosi’r un cynnwrf – nac yn hawlio’r un sylw. Pam hynny? Wel, yn un peth, dydy pob bardd ddim yn cael yr un sylw â Seamus Heaney, hyd yn oed yn Iwerddon. Bu farw bardd talentog ac adnabyddus arall cyn y Nadolig – Dennis O’Driscoll. Cafodd baragraff ar newyddion RTÉ, a sawl teyrnged yn y papurau newydd. Ond dyna’r cyfan.
Yn ôl unrhyw ffon fesur roedd Seamus Heaney yn wahanol ac yn arbennig. Nid yn unig oherwydd ei ddawn, ond oherwydd ei enwogrwydd. Ar un adeg yn ei yrfa, roedd yn cael ei adnabod (braidd yn ddirmygus) fel ‘Famous Seamus’. Roedd rhai pobl – o genfigen efallai – yn meddwl ei fod wedi troi’n dipyn o ‘fardd proffesiynol’. Roedd o ar bob llwyfan a phob rhaglen radio. Un rheswm am ei enwogrwydd oedd y ffaith syml ei fod yn sgwennu yn Saesneg. Ac felly’n gallu apelio at y gynulleidfa yn America – a manteisio hefyd ar y gylchdaith academaidd yn America, cylchdaith broffidiol i unrhyw fardd. Rheswm arall am ei boblogrwydd oedd ei fod wedi cymryd y cam dewr o fod yn fardd llawn-amser. Dyna oedd ei waith. Yn 1972, yn 32 oed, fe adawodd ei swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Queen’s ym Melffast. Symudodd gyda’i wraig a’u teulu ifanc i lawr i’r Weriniaeth i fyw, i swydd Wicklow, y tu allan i Ddulyn. Fe ddaliodd ymlaen i wneud dipyn o waith darlithio – ond o hynny ymlaen, bardd oedd o. Adroddai stori amdano’n llenwi ffurflen ar gyfer mynediad ei fab i ysgol gynradd yn Wicklow. Gofynnai’r ffurflen beth oedd gwaith y tad. Cyfaddefodd iddo gael gwefr, a thipyn o ias, wrth sylweddoli mai ‘bardd’ oedd yr ateb.
Yn ddigon rhyfedd, mae’r tair ffactor uchod – sgwennu yn Saesneg, llwyddiant yn America, a’r penderfyniad anarferol a dewr i fod yn fardd llawn-amser, yn dwyn i gof fardd arall – nid Gwyddel, ond Cymro, Dylan Thomas. Bardd arall a gipiodd y penawdau, er ei fod yn bersonoliaeth wahanol iawn i Heaney.
Ond ffactor arall yn enwogrwydd – a phwysigrwydd – Heaney, oedd ei gefndir fel bardd o Ogledd Iwerddon. Roedd amgylchiadau ei blentyndod a’i ieuenctid yn allweddol. Fe roddodd ei ddyddiau cynnar ar y fferm eirfa ac ymdeimlad cadarn, daearol a phriddlyd iddo. Fe gafodd hefyd addysg glasurol ac eangfrydig yn ysgol St Columb yn Derry. Bu honno’n feithrinfa i nifer o ffigyrau mwyaf blaenllaw Iwerddon – y gwleidydd John Hume, y dramodydd Brian Friel, y cerddorion Phil Coulter a Paul Brady. Does dim llawer o ysgolion wedi cynhyrchu dau enillydd Gwobr Nobel.
Ac yn fwy na dim, ymdreiddiodd y profiadau a gafodd drwy fod yn aelod o’r gymdeithas Babyddol orthrymedig yn y Gogledd drwy ei waith. Mae hanes a helyntion Iwerddon, a gwaed y Gogledd, yn llifo drwy ei farddoniaeth. Fel y dywedodd Heaney ei hun: ‘Yn Iwerddon, allwch chi ddim gwahanu’r llenyddol oddi wrth yr hanesyddol a’r gwleidyddol’. Mae’r gerdd ‘A Constable Calls’ yn adlewyrchu’r annhegwch, ac yn ail-greu’r tensiwn a’r ofn a oedd yn rhan o fywyd-bob-dydd y cefndir hwnnw.
Ond fe wrthododd Heaney adael i’w awen gael ei meddiannu gan yr helyntion, ac fe wrthododd adael i’w farddoniaeth droi’n bropaganda. Cafodd ei feirniadu am hynny – am beidio â chyflawni ei ddyletswydd lwythol. Cafodd ei gyhuddo o ddianc rhag yr helyntion pan aeth i fyw i Wicklow yn 1972. Ond i Heaney – a’r beirdd eraill oedd yn rhan o’i gylch ym Melffast yn niwedd y 1960au, gan gynnwys ei ffrind agos Michael Longley, sy’n hanu o gefndir Protestannaidd, gyda rhieni Seisnig – roedd bod yn driw i ddelfrydau barddoniaeth, diwylliant, a dynoliaeth yn bwysicach nag ochri’n wleidyddol.
Cofiwch, doedd gan Seamus Heaney ddim amheuaeth am ei hunaniaeth : ‘My passport’s green / no glass of ours was ever raised / To toast the Queen’, oedd ei brotest pan gafodd ei gerddi eu cynnwys mewn casgliad Prydeinig. Ond roedd o a Longley a’u cyfeillion yn awyddus i ddod o hyd i iaith arall, llwybr arall, llwybr a oedd heb gael ei dagu gan fieri’r casineb a’r brwydro.
Do, fe gafodd Heaney a’i gyd-feirdd eu beirniadu am ‘optio allan’. Ond trwy’r safiad hwnnw, a thrwy ei gerddi, fe lwyddodd Heaney i siarad dros filoedd o Wyddelod yn y De a’r Gogledd oedd hefyd eisiau dod o hyd i ddatrysiad i’r helyntion. Dyna sy wedi ei wneud yn fardd cenedlaethol. A dyna pam roedd ei angladd yn achlysur cenedlaethol yn ogystal ag achlysur personol a theuluol.
Wrth gwrs, mae Gwyddelod yn arbenigwyr ar angladdau – ac roedd angladd Seamus Heaney yn un arbennig iawn. Un o’r pethau mwyaf trawiadol am ei farwolaeth oedd ei bod wedi peri i’r genedl gyfan, bron, siarad am farddoniaeth am bedwar diwrnod.
Chefais i erioed gyfarfod Seamus Heaney er fy mod, fel pawb yma, yn gyfarwydd â’i lais a’i wyneb. Un peth mae pawb yn ei ddweud amdano oedd ei fod yn hael iawn gyda’i amser, a wastad yn siriol a bonheddig. Trysoraf y prawf sydd gen i o hynny. Anfonwyd fy ngwr, John, i Stockholm ar ran yr Irish Independent pan enillodd Heaney ei Wobr Nobel. Yng nghanol y prysurdeb a’r halibal?, fe ofynnodd John iddo lofnodi copi o’i gyfrol North i mi – ac fe gymerodd yr amser i sgwennu, yn Saesneg, ‘I Bethan Kilfoil gyda phob dymuniad da, Seamus Heaney’.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
