Mae ysgolheigion o’r radd flaenaf yn dadlau’n argyhoeddiadol nad oes unrhyw sail ddiwinyddol na deallusol dros beidio cymryd y cam rhesymol a gymerwyd gan yr Eglwys yng Nghymru yn Llambed y mis diwethaf. Sut, ar wyneb daear a nef, holodd Archesgob Cymru, Barry Morgan, y gellid caniatáu i athrawesau ddod yn benaethiaid adran, ac yna eu gwahardd rhag ymgeisio, hyd yn oed, i ddod yn brifathrawon?
Wrth gwrs, yng ngolwg eglwyswyr adweithiol, ni ellir cymharu dyrchafiadau seciwlar â rhai eglwysig. Haerir bod i benodiadau eglwys Crist ddwyfol ordinhad. Ysywaeth, yn eu golwg nhw mae’r dwyfol yn gyfystyr â’r gwrywaidd. Os ewch chi i wefannau megis Cranmer, fe welwch chi un o wreig-gasawyr mwyaf llysnafeddog y nofel Saesneg, C.S. Lewis, yn bwrw sen ar y syniad o weinidogaeth menywod. Dyn yw Duw. Mab Duw yw Iesu Grist. Ac ni fyddai Ef wedi dewis dynion yn unig i fod yn ddisgyblion pe credai am eiliad bod merched yn gymwys ar gyfer y job. Anwybyddir yn llwyr y ffaith mai arferiad diwylliannol cymdeithas arbennig, mewn lle arbennig, ar adeg arbennig, oedd cyfyngu gweithgarwch merched i orchwylion domestig yn unig.
Rydym ni Gristnogion i fod yn fwy goleuedig erbyn hyn. Nid yn y gwledydd Cristnogol y disgwylir i ferched ymddangos yn gyhoeddus mewn gwisgoedd a phenwisgoedd sy’n cuddio a gorchuddio eu hwynebau a siâp eu cyrff. Nid mewn gwledydd Cristnogol y pledir gwragedd anffyddlon i farwolaeth â cherrig. Ac nid mewn gwledydd Cristnogol y caniateir i organau rhywiol merched gael eu bwtsiera er mwyn eu hamddifadu o bleser a boddhad.
Efo’r ewyllys orau yn y byd, mae’n anodd osgoi’r teimlad bod gwrthod yr hawl i ferched ddod yn esgobion yn symptom o hen, hen gyflwr misogynistaidd. Rhwng 1500 a 1660, yn Ewrop a threfedigaethau gogledd America dedfrydwyd hyd at 100,000 o wrachod honedig i farwolaeth. Mae llenorion mor amrywiol â Marion Eames ac Arthur Miller, o Ddolgellau, Meirionnydd i Salem, Massachusetts wedi sgwennu am yr erledigaeth felltigedig a fu ar ferched.
Mor ddiweddar â 1995 fe gefais innau’r teimlad fy mod i wedi cael fy hyrddio’n ôl i’r oesoedd canol. Cyflwyno rhaglen deledu oeddwn i ar ordeinio merched yn offeiriaid yn yr Eglwys yng Nghymru. Fedrwn i ddim credu fy nghlustiau pan ddechreuodd un o’r gwrthwynebwyr, John Raymond Jenkins, ficer Llanon yng Ngheredigion, ddweud ei ddweud. Gyda’r difrifoldeb mwyaf, gofynnodd inni ystyried beth fyddai canlyniad caniatáu i offeiriad o ferch weinyddu’r cymun sanctaidd a hithau ar ganol ei misglwyf. Mynnai y byddai ei chyflwr yn halogi’r bara a’r gwin.
Synhwyraf mai’r ofergoel sinistr bod rhywbeth gwaelodol amhur a pheryglus ynglyn â merched oedd wrth wraidd yr erledigaeth a’r dienyddio, ar raddfa enfawr, a ddigwyddodd ers talwm. Nid wyf am eiliad yn awgrymu y byddai John Raymond, gwr hoffus ar sawl cyfrif, yn niweidio neb, boed fenyw neu wryw.
Ond roeddwn i’n falch drybeilig pan gamodd yr Eglwys yng Nghymru o’r tywyllwch i’r goleuni. A byddai ei gweld yn cymryd camau ystyrlon i ddiogelu’r Gymraeg o fewn i’w hesgobaethau yn fy llonni ymhellach.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
