Ond saith gwaeth na hynny oedd y niwed a wnaeth yr SNP ac Yes Scotland iddi hi ei hun. Credai pawb y byddai Alban annibynnol yn gadael NATO ac yn hel llongau tanfor Prydain o’u cartref clyd yn Fastlane ar afon Clud. (‘Croeso i Gymru’ oedd ymateb byrbwyll eich Carwyn chi i hynny!) Eithr dros yr haf clywyd rhai o wleidyddion amlyca’r SNP yn gwyntyllu’r posibilrwydd y gallai Alban annibynnol aros yn NATO. A bellach bydd cynhadledd flynyddol yr SNP, yn ddiweddarach y mis hwn, yn gorfod pleidleisio ar y mater. Does bosib y bydd yr SNP yn cyfaddawdu ar Trident o bob dim? Cawn weld. Ond gwrthwynebu NATO, a hynny’n gwbl ddigymrodedd, y mae’r pleidiau eraill sy’n gefnogol i annibyniaeth, y Gwyrddion a Phlaid Sosialaidd yr Alban. Felly, hyd yn oed pe byddai cynhadledd yr SNP yn dilyn yr arweinyddiaeth ac yn cytuno i gadw Trident – os nad ei chofleidio – byddai’r blaid genedlaethol yn parhau i elyniaethu ei chyd-ymlwybrwyr ar hyd heol annibyniaeth. Dyrys, onid e?
Ond fu’r haf gwlyb hwn ddim yn un da i’r Unoliaethwyr chwaith. Doedd yr arweinydd Llafur ddim i’w weld yn unman. A methiant llwyr fu ymgais ffôl Llafur i chwarae’r ffon ddwybig drwy lambastio’r Torïaid am ddifrodi economi’r Alban gan eu canmol, ar yr un gwynt, am wrthwynebu annibyniaeth i’r Alban. Gwelwyd mai celwydd noeth oedd addewid llefarydd Llafur ar Amddiffyn, Jim Murphy, na fyddai byth bythoedd yn rhannu llwyfan efo’r Torïaid. Tynnwyd ei lun ar stondin yr Unoliaethwyr yn ymgyrchu dros barhad y drefn Brydeinig gan ymddangos yn gysurus ac ymlaciedig iawn yng nghwmni Jackson Carlow, dirprwy arweinydd Ceidwadwyr yr Alban. Haerir na all Carlow gysgu’r un winc os nad yw wedi gweddïo’n gyntaf dros y Frenhines a’i chorgwn cyn lapio ei hun yn dynn mewn cwrlid coch, gwyn a glas.
Godrodd yr SNP y sefyllfa honno i’r eithaf. A dyna wnaethon nhw hefyd pan gyfeiriodd gwefan Llafur at y Torïaid fel plaid a oedd yn gwbl elyniaethus i les a chynnydd yr Alban. Ond o fewn dim o dro roedd neges arall wedi ymddangos ar wefan swyddogol Llafur yn cefnogi’r ymgyrch Better Together. A phwy sy’n gyfrifol am yr ymgyrch honno? Y Torïaid honedig wrth-Albanaidd, dyna i chi pwy. O’r gorau, efallai nad yw’r cyhoedd yn gyffredinol yn or-ymwybodol o’r anonestrwydd deallusol. Ond bu datgelu’r twyll yn fodd i dynnu’r gwynt o hwyliau gweithwyr Llafur ar lawr gwlad, ac i wneud niwed i gredinedd y blaid. Yn yr Alban dyw bod ar yr un ochr â’r Torïaid – hyd yn oed weithiau – ddim yn Syniad Da.
Wrth gwrs, arf grymusaf yr Unoliaethwyr dros yr haf oedd y Gemau Olympaidd a’r godidog undod yr oedd Team GB i fod i’w gynrychioli. Ond mae’r polau piniwn yn awgrymu mai’r hyn a wnaeth yr holl heip Prydeinllyd mewn gwirionedd oedd codi gwrychyn yr Albanwyr.
Eisoes synnodd Alex Salmond ei wrthwynebwyr drwy wneud y Dirprwy Brif Weinidog Nicola Sturgeon yn gyfrifol am y paratoadau ar gyfer y bleidlais. Beth mae hynny’n ei wneud yw rhyddhau Salmond i wneud unrhyw beth – a phopeth – a fydd ei angen i gael yr Alban i ddweud Ie.
Nid wythnos sydd i fynd ond dwy flynedd. Ac mae hynny’n sicr yn amser hir iawn, iawn mewn gwleidyddiaeth.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
