Yn anad dim, rydym ni’r pererinion unwaith-y-flwyddyn am deimlo’n gynnes tuag at Gristnogaeth. Ac i’r rhai ohonom sydd ar y Chwith, mae temtasiwn gref hefyd i weld rhai agweddau ar wyl y Geni yn gadarnhad dwyfol o’n daliadau gwleidyddol a chymdeithasol. Dyma chwedl am fam ddi-briod yn cael ei gyrru ar daith ddiangen gan bwer ymerodrol gormesol. Wedi cyrraedd pen ei thaith, mae mân gyfalafwyr gwancus a chreulon yn gwrthod llety iddi, gan adael iddi eni ei baban mewn beudy. A hithau yn ei thrallod, gyda dim ond ych ac asyn yn gwmni, dyma griw o werinwyr lleol – bugeiliaid diwyd a didwyll – yn dod i’w gweld. Roedd Duw wedi eu hysbysu nhw’n arbennig, cyn holl fawrion y byd, trwy anfon atynt liaws o lu nefol. Pe ychwanegid ychydig o anrhegion moesegol ddilychwyn a deiseb dros Balestina Rydd, byddai’r darlun yn gyflawn.
Nid y Nadolig yw’r unig agwedd ar Gristnogaeth, wrth gwrs, y buom yn hoff o’i llurgunio i ddibenion seciwlar. Un o’m trugareddau pennaf yn yr ystod yr 1980au oedd llun bychan o’r Iesu fel saer coed di-waith mewn dyngarîs ac ar ei labed fathodyn ‘3 miliwn’, sef cyfanswm y di-waith ar y pryd. Yr unig broblem gyda’r fath ddehongliadau o’r Ffydd yw eu bod fwy neu lai’n gwbl ddi-sail.
Un o brif ddifyrion deallusol y diweddar Enoch Powell, pan nad oedd yn ymhél â’i ddyletswyddau Seneddol, oedd dadansoddi’r Efengylau, tasg y byddai’n bwrw iddi â’i drylwyredd arferol. Fel dyn hyddysg mewn Groeg a Hebraeg, roedd ganddo gymwysterau da ar gyfer y gwaith. Er hynny, roedd rhesymeg Powell, mewn diwinyddiaeth fel mewn gwleidyddiaeth, yn ei arwain yn amlach na pheidio at gasgliadau nad oedd neb arall yn eu rhannu.
Mewn ysgrif fer ond treiddgar yn y Times ar Noswyl Nadolig 1973, ymdriniodd yn ei ddull didrugaredd â rhai o’r syniadau mwyaf sentimentalaidd o sosialaidd a gysylltid â Stori’r Geni. Ychydig fisoedd ynghynt yn yr un papur, roedd Powell wedi beirniadu’n hallt haeriad y Parch. Paul Oestreicher bod gan Gristnogion y Gorllewin gyfrifoldeb dros ddioddefwyr y rhyfel cyfredol ym Mosambîc. Seiliodd yr offeiriad ei farn ar gwestiwn Cain i Dduw: ‘Ai ceidwad fy mrawd ydwyf i?’ Ond barnai Powell mai ateb tebygol yr Arglwydd i ymholiad haerllug Cain fyddai: ‘Dim o gwbl, ond mi wyddost ti’n iawn lle mae o, oherwydd rwyt ti wedi ei lofruddio’. Ychwanegodd fod gan Mr Oestreicher ‘gymaint o hawl â neb arall i ffurfio ei gasgliadau ei hun am yr hyn sy’n digwydd ym Mosambîc neu Siberia, i gondemnio’r fath droseddau, ac i alw ar Lywodraeth ei Mawrhydi i ymateb. Ond nid oes ganddo’r hawl i alw ar Genesis 4:9 i’w gynorthwyo’.
Nid oedd yr hen ysgolor wedi colli dim o’i finiogrwydd deallusol yn ei lith y Nadolig hwnnw. Dechreuodd drwy dynnu blewyn o drwyn y pregethwyr hynny nad oeddynt yn fodlon mynegi’r ‘gwirionedd bod yr Iachawdwr wedi ymweld â ni mewn gostyngeiddrwydd mawr’ ond a ymhyfrydai’n hytrach mewn honni iddo gael ei eni mewn stabl am fod y cyfoethogion a’r calon-galed heb roddi iddo le yn y llety. ‘Bydd yn fain arnom,’ meddai Powell yn watwarus, ‘os na fydd aml i gyfeiriad o’r pulpud at Rachman (landlord diarhebol o ddiegwyddor o’r Chwedegau), at hapfasnachwyr eiddo ac at brinder tai’. Diau y gellid ychwanegu cyfeiriad eleni at y Dreth Ystafelloedd Gwely.
Yn gonglfaen i’w lith, tynnodd sylw at un ffaith amlwg am Stori’r Geni fel y’i cofnodir yn yr Efengylau, sef hyn: nid oes sôn am stabl yn unman. Nid yw Mathew, Marc nac Ioan yn trafod manylion y geni, a’r cyfan a ddywed Luc yw bod Iesu wedi’i roi ‘yn y preseb’ am nad oedd ‘lle’ yn y gwesty. Yn ôl Powell, diffyg crud yw’r diffyg ‘lle’ a drafodir yma. Nid oedd gan y gwesty grud, felly rhaid oedd dod â phreseb i mewn ar gyfer y babi newydd anedig. Swyddogaeth bwysig arall sydd gan y preseb fel motîff llên gwerin yw ei fod yn un o’r cliwiau y mae’r angylion yn ei roi i’r bugeiliaid i’w galluogi i ddod o hyd i’r Meseia bach: ‘Rhag ofn nad ydych chi’n fy nghredu, gallaf ddweud wrthych chi y cewch chi’r baban wedi’i lapio’n dynn i gyd mewn cafn bwyd’. Mae Powell yn egluro ymhellach sut y lledaenwyd golygfa’r stabl ar hyd y canrifoedd dilynol drwy’r llu o ddramâu a welwn bob blwyddyn mewn eglwysi a ffenestri siopau. Tyfodd y cyfan ar sail Eseia 1:3: ‘Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog’. Gyda’r creaduriaid yn eu lle, roedd angen rhyw fath o adeilad amaethyddol i roi cyd-destun iddynt, a dyna a gafwyd o ddiwedd yr Oesoedd Canol ymlaen. Wele stabl.
I gloi, mae Powell yn gofyn pam yr ystyriwn Ddyn y Gwesty erbyn hyn yn ddyn dideimlad a hynny’n unig oherwydd bod ei westy’n llawn. Mae’r neges yn glir yn ôl Powell: ‘Mae gan y stabl a’r gwartheg... hanes hir. Byddai’n resyn gan bob un ohonom fod hebddynt. Ond ni all y rhai sy’n eu defnyddio i bwrpas moeswers fynnu bod ganddynt awdurdod yr Efengyl dros wneud hynny.’
Dwrdiodd Powell yr Esgob Trevor Huddleston mewn dadl deledu gofiadwy yn 1969: ‘Rydach chi’n mynd ati i urddasoli eich sylwadau seciwlar drwy gymryd arnoch eu bod yn deillio o’ch credoau Cristnogol’. Neu yng ngeiriau’r hen ddychanwr Ellis Wynne yn ôl yn 1703: ‘Nid oes yma ond piniwn’.
Pe bawn yn gwbl onest â fi fy hunan, roeddwn wastad yn sylweddoli bod rhywbeth o’i le ar fy rhamant Nadoligaidd. Wrth i ffyddloniaid Eglwys Sant Joseff fynd at yr allor i ymgymryd â chnawd a gwaed eu Hiachawdwr, sefais innau’n ôl yn barchus (neu mor barchus ag y gallai dyn meddw fod). Rhywle yng nghefn fy meddwl roedd rhybudd dwys Sant Paul bod y sawl sy’n ‘bwyta ac yn yfed yn annheilwng... yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun’. Eglwysa’n annheilwng oeddwn i, mi wyddwn hynny’n iawn. Fel y dywedodd y Pabydd craff Saunders Lewis – dyn a oedd yr un mor effro i’r ffuantus a’r rhagrithiol ag oedd Ellis Wynne – dylem fod yn ddigon bonheddig (neu’n ddigon dewr) i wrthod Crist yn gwbl agored os na allwn dderbyn Cristnogaeth yn ei grynswth. Ugain mlynedd ar ôl simsanu allan o’r Rising Sun, mae’n hen bryd i mi ddilyn cyfarwyddyd Saunders.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
